Mae mudiad gwrth-niwclear yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wahardd mewnforion wraniwm o Rwsia ar unwaith.

Mae grŵp Pobl Atal Wylfa B (PAWB) wedi ysgrifennu llythyr at Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ynys Môn, sydd hefyd yn aelod o’r Grŵp Niwclear Trawsbleidiol yn San Steffan.

Maen nhw’n nodi bod yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig wedi gwrthod gwahardd mewnforio wraniwm, sy’n cael ei ddefnyddio mewn adweithyddion niwclear, er gwaethaf galwadau i osod sancsiynau.

Fe wnaeth PAWB hefyd gondemnio penderfyniad y grŵp trawsbleidiol am ddatgan eu bwriad i gynhyrchu hyd at 30 Gigawat o drydan drwy ynni niwclear erbyn 2050.

Galwad

Mae Robat Idris o grŵp PAWB yn cwestiynu’r penderfyniad “rhagrithiol” i beidio gosod sancsiynau ar wraniwm o Rwsia.

“Mae llywodraethau’r Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig hyd yma wedi gwrthod galwadau am sancsiynau ar fewnforion wraniwm o Rwsia,” meddai yn y llythyr.

“Yn yr Unol Daleithiau, yn dilyn lobïo gan y Sefydliad Ynni Cenedlaethol, grŵp masnach sy’n cynrychioli cwmnïau niwclear America, nid yw’r Llywodraeth Ffederal wedi gosod sancsiynau ar wraniwm o Rwsia oherwydd y byddai hynny’n arwain at gynnydd mewn prisiau trydan.

“Mae’n rhesymol i dybio bod Bechtel a Westinghouse wedi rhoi sêl eu bendith i’r lobïo hwn.

“Eto i gyd, mae’r diwydiant niwclear yn honni bod angen ynni niwclear ar gyfer sicrwydd ynni, mor angenrheidiol fel nad ydynt am osod sancsiynau ar danwyddau wraniwm o Rwsia.

“Onid yw gwleidyddion yn gallu gweld y rhagrith yn y fath resymeg?”

Sancsiynau

Rwsia sy’n gyfrifol am 35% o holl farchnad y byd ar gyfer wraniwm sydd wedi ei gyfoethogi.

“Dylai’r Grŵp Niwclear Trawsbleidiol alw ar lywodraethau’r Deyrnas Unedig ac ar draws y byd i osod sancsiynau ar wraniwm o Rwsia,” meddai Robat Idris wedyn.

“Mae’r elw ar danwyddau wraniwm wedi’u cyfoethogi wedi prynu bwledi a bomiau sy’n cael eu defnyddio yn awr yn erbyn Wcrainiaid.

“Mae trydan dibynadwy yn gallu cael ei gynhyrchu gan dyrbinau nwy wedi’u tanio gan hydrogen pan na fydd y gwynt yn chwythu a chan ffermydd gwynt ar y môr pan fydd y gwynt yn chwythu.

“Cofiwch hefyd am dechnolegau solar ac ynni morol sy’n gallu gwneud cyfraniad mawr at ein cyflenwadau trydan.”

Darllenwch ragor gan Robat Idris yn adran Safbwynt golwg360:

Hunllef niwclear yr Wcráin – a’n un ni

Robat Idris

“Roedd y newyddion bod gorsaf niwclear wedi dod dan ymosodiad yn bygwth diogelwch ardaloedd helaeth ymhell bell o’r Wcráin”