Mae’r Urdd wedi cadarnhau y byddan nhw’n cynnig llety dros dro i ffoaduriaid o Wcráin wrth iddyn nhw aros am lety parhaol.

Fe fydd un o wersylloedd y mudiad yn cael ei drawsnewid er mwyn croesawu dinasyddion y wlad sydd wedi cyrraedd Cymru.

Roedden nhw wedi cynnal trafodaethau efo Llywodraeth Cymru fel rhan o’r ymateb i’r argyfwng ffoaduriaid mwyaf yn Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd.

Y llynedd, fe drefnodd y mudiad fod dros gant o ffoaduriaid o Affganistan yn gallu aros yn y gwersyll ym Mae Caerdydd.

Bryd hynny, roedden nhw wedi darparu ystafelloedd gwely ac ymolchi, paratoi prydau bwyd, a threfnu sawl gweithgaredd chwaraeon, celfyddydol ac addysgol.

‘Hynod o ddiolchgar am gefnogaeth aelodau’

Dywed Siân Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, fod “cymorth dyngarol a helpu eraill wedi bod wrth wraidd yr Urdd ers ei sefydlu yn 1922”.

“Mae estyn llaw o gyfeillgarwch i eraill yn eu cyfnod o angen yn un o werthoedd y mudiad ac mae’n bwysig i ni ddangos i’n haelodau pa mor bwysig yw gwaith dyngarol lleol, cenedlaethol a rhyngwladol,” meddai.

“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am gefnogaeth aelodau’r Urdd a’r ysgolion am ein galluogi i agor ein drysau i deuluoedd o Wcráin sy’n chwilio am loches a diogelwch.

“Dyw hyn ond yn bosibl o ganlyniad i ddealltwriaeth a charedigrwydd ein haelodau, gan fod gofyn iddynt ohirio eu cynlluniau i fynychu cyrsiau preswyl yn un o’n gwersylloedd am y tro wrth i ni gynnig lloches i’r ffoaduriaid.

“Yn ogystal â chynnig lloches i 113 o ffoaduriaid o Affganistan yn ddiweddar, bu i ni lunio rhaglen ar eu cyfer oedd yn gyfuniad o gydweithio effeithlon rhwng nifer o asiantaethau ynghyd â chynnig croeso aml haenog i ddiwylliant a bywyd yng Nghymru.

“Roedd yn adlewyrchiad llwyddiannus o uchelgais Cymru i ddod yn Genedl Noddfa ac rydym yn fwy na pharod i wneud hyn eto ar adeg mor anodd yn hanes Wcráin.”

Llywodraeth Cymru’n croesawu’r cyhoeddiad

Mae Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, wedi croesawu’r cyhoeddiad.

“Mae Cymru yn Genedl Noddfa,” meddai.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod yna groeso cynnes i bobol sy’n ffoi rhag trais a gwrthdaro Wcráin.

“Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda’n partneriaid yn y trydydd sector, yr Urdd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i wneud yn siŵr bod y gefnogaeth iawn ar gael ar unwaith i bobol sy’n cyrraedd o Wcráin.

“Yn dilyn llwyddiant y dull partneriaeth o weithredu cynllun adsefydlu dinasyddion Affganistan, mae’n destun balchder inni gael partneru unwaith eto â’r Urdd i agor un o ganolfannau croesawu cyntaf Cymru i ffoaduriaid Wcráin.”

Canmoliaeth

Roedd nifer wedi canmol y cyhoeddiad ar gyfryngau cymdeithasol yn ddiweddarach.

“Mae, ac mi fydd, sawl teulu sydd wedi dod o berfeddion uffern yn cysylltu Cymru efo cysur, croeso a gobaith diolch i’r Urdd,” meddai’r cyflwynydd radio Aled Hughes.

Dywedodd y DJ Elan Evans ein bod “ni’n lwcus iawn yng Nghymru i gael mudiad mor anhygoel.”

Roedd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles, hefyd yn croesawu’r cyhoeddiad.

“Bydd [Llywodraeth Cymru] yn uwch-noddwr, i wneud y broses mor gyflym a syml â phosib,” meddai.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid fel bod cymorth addas ar gael ar unwaith.”