Mae llys wedi clywed bod y bachgen pump oed Logan Mwangi, y cafwyd hyd iddo mewn afon ger ei gartref yn Sarn ger Pen-y-bont ar Ogwr ac a fu farw’n ddiweddarach, wedi cael anafiadau oedd “yn cyd-fynd â chamdriniaeth”.

Cafwyd hyd iddo yn afon Ogwr ryw 250 metr i ffwrdd o gartre’r teulu, ac yntau wedi cael mwy na 56 o anafiadau.

Mae ei fam Angharad Williamson (30), ei lystad John Cole (41) a llanc 14 oed nad oes modd ei enwi i gyd wedi’u cyhuddo o’i lofruddio.

Tystiolaeth

Clywodd Llys y Goron Caerdydd heddiw (dydd Llun, Mawrth 21) y gallai’r dystiolaeth “fod yn anodd gwrando arni”.

Bu’n rhaid i’r barnwr atal yr achos dros dro yn ystod diwrnodau cynta’r achos llys, gan fod aelodau’r rheithgor yn amlwg dan deimlad o glywed tystiolaeth.

Cawson nhw sicrwydd na fyddai’n rhaid iddyn nhw edrych ar fideo na ffotograffau o gorff y bachgen bach, a bod delweddau cyfrifiadurol wedi cael eu creu fel bod modd iddyn nhw gael argraff o’i anafiadau.

Fe wnaeth arbenigwr fforensig ddisgrifio’r anafiadau i gorff a phen Logan adeg archwiliad post-mortem ar Awst 1 y llynedd.

Roedd ganddo fe 14 o gleisiau a briwiau ar ei ben a’i wddf, a dwsinau yn rhagor ar ei gorff, ei goesau, ei draed, ei freichiau a’i ddwylo.

Cafodd ei anafiadau eu disgrifio fel rhai fyddai’n cael eu hachosi gan wrthdrawiad ar gyflymdra uchel, gan gynnwys anafiadau i’w afu a’i goluddyn, a’r rheiny fel arfer yn awgrymu camdriniaeth.

Roedd e hefyd wedi torri pont ei ysgwydd ac roedd ganddo “niwed trawmatig” i’w ymennydd, a daeth yr arbenigwr i’r casgliad iddo farw o ganlyniad i ergyd i’w ben ac y gallai fod wedi cael ei anafiadu hyd at ddeuddydd cyn ei farwolaeth.

Doedd dim awgrym ei fod e wedi boddi, meddai, a bod ei holl anafiadau wedi’u hachosi cyn iddo farw, naill ai fel rhan o un digwyddiad neu ragor.

Y diffynyddion

Dadl yr erlynwyr yw fod Angharad Williamson, John Cole a’r llanc wedi llofruddio Logan Mwangi ac wedi creu cynllwyn oedd yn cynnwys gadael ei gorff yn yr afon, ffonio’r heddlu i adrodd ei fod e ar goll, a golchi ei ddillad gwely gwaedlyd.

Mae Angharad Williamson a’r llanc yn gwadu llofruddio a gwyrdroi cwrs cyfiawnder, ac mae John Cole yn gwadu llofruddio ond yn cyfaddef iddo wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae Williamson a Cole hefyd wedi’u cyhuddo o achosi neu alluogi marwolaeth plentyn, ac mae’r achos yn erbyn y tri yn parhau.