Mae Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, wedi canmol yr holl ymdrechion i groesawu ffoaduriaid o Wcráin.
O ddydd Sadwrn (Mawrth 26), fe fydd Cymru yn dechrau gweithredu fel uwch-noddwr yng nghynllun Cartrefi i Wcráin, sy’n cael ei arwain gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Yr wythnos ddiwethaf, ysgrifennodd prif weinidogion Cymru a’r Alban lythyr ar y cyd yn datgan eu bwriad i groesawu 1,000 o ffoaduriaid yng nghyfnod cyntaf y cynllun.
Ers hynny, mae’r llywodraeth wedi cydweithio gyda chynghorau lleol, y Gwasanaeth Iechyd a’r trydydd sector i sefydlu’r trefniadau.
Fe wnaeth yr Urdd gyhoeddi heddiw (dydd Llun, Mawrth 21) y byddan nhw’n rhoi llety i ddinasyddion sy’n ffoi o’r rhyfel yn un o’u gwersylloedd.
Ers yr wythnos ddiwethaf, mae unigolion wedi cael y cyfle i ddatgan diddordeb mewn noddi a chynnig llety i’r rhai sy’n ceisio lloches.
Bellach, mae dros dair miliwn o bobol wedi gadael Wcráin, ac mae miliynau yn rhagor wedi eu dadleoli yng nghanol y wlad.
‘Gwaith aruthrol’
‘Tîm Cymru’ yw’r enw ar y dull mae Llywodraeth Cymru yn ei weithredu er mwyn croesawu ffoaduriaid o Wcráin.
Noda Jane Hutt fod datgelu eu hunain fel uwch-noddwyr wedi “cyflymu’r broses” o wneud hynny.
“Ychydig dros wythnos yn ôl, fe gadarnhaodd Prif Weinidog Cymru ein bwriad i fod yn uwch-noddwr o dan gynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Ers hynny, mae gwaith aruthrol wedi’i wneud i sicrhau llety a gwasanaethau cymorth, ac i baratoi i’r cynllun ddechrau ar 26 Mawrth.
“Bydd y ffaith ein bod yn uwch-noddwr yn cyflymu’r broses o alluogi Wcrainiaid sydd am ddod i Gymru i wneud hynny’n gyflym, heb orfod poeni am brofi bod ganddyn nhw gysylltiad â Chymru cyn gallu dod.”
‘Gweithredu fel tîm’
Mae Jane Hutt wedi diolch i bawb sydd wedi cydweithio â nhw ar y trefniadau.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein gorau glas i gefnogi pobol sy’n ffoi rhag rhyfel Wcráin, ac i ddarparu noddfa a diogelwch yng Nghymru,” meddai.
“Dw i am dalu teyrnged i gydweithwyr ar draws ein cynghorau a’n byrddau iechyd yng Nghymru sy’n gweithio i sicrhau bod gwasanaethau yn eu lle erbyn i’r ffoaduriaid cyntaf gyrraedd.
“Mae’n dangos ein bod wir yn gweithredu fel tîm yng Nghymru ac yn ailddatgan ein hymrwymiad i fod yn Genedl Noddfa.”
Fe gyhoeddodd elusen DEC eu bod nhw wedi codi £200m i Apêl Ddyngarol Wcráin ar draws y Deyrnas Unedig yn ystod y tair wythnos diwethaf.
Mae modd i unigolion sy’n gymwys ddatgan diddordeb mewn noddi dinasyddion o Wcráin ar wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig.