Dywed Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth ei bod hi’n bwysig fod myfyrwyr yn cael llais wrth herio’r argyfwng tai.

Bydd Mared Edwards, sydd yn y rôl eleni, gan fwyaf yn siarad ar ran myfyrwyr yn y rali dros y penwythnos i ddathlu 60 mlynedd ers darlledu’r ddarlith radio Tynged yr Iaith gan Saunder Lewis.

Mae’r rali wedi cael ei threfnu gan Gymdeithas yr Iaith, yn bennaf er mwyn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Eiddo gyflawn i alluogi cymunedau i gael mwy o reolaeth dros eu stoc tai.

Ymhlith y siaradwyr eraill fydd Heledd Gwyndaf, Mabli Siriol, Gwenno Teifi, a Bryn Fôn, ac fe fydd Tecwyn Ifan yn perfformio ar y diwrnod.

Gan ddechrau ar Bont Trefechan, lleoliad rali gyntaf y Gymdeithas yn 1963, bydd yr ymgyrchwyr yn gorymdeithio drwy strydoedd y dref at swyddfeydd y Llywodraeth a Chyngor Ceredigion yn Llanbadarn Fawr.

‘Ni ydi dyfodol cymunedau Cymru’

Mae Mared Edwards yn Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth ar gyfer 2021/22, ac wedi bod yn fyfyriwr yn y brifysgol ger y lli.

Hi fydd y siaradwr ieuengaf yn y rali brynhawn dydd Sadwrn (Chwefror 19).

“Yn bennaf, fydda i’n siarad o bersbectif y myfyrwyr,” meddai.

“Mae lot ohonyn nhw eisiau dychwelyd adref ar ôl graddio, ond ar hyn o bryd dydy hynny ddim yn bosib – nid yn unig o ran swyddi, ond o ran methu fforddio lle i fyw.

“Er fy mod i wedi mwynhau fy amser yn Aberystwyth ac yn dal yn byw yma, mi fyswn i hefyd wrth fy modd yn gallu mynd adref ryw ben.

“Ar y funud, dw i ddim yn gweld hynny’n bosib.

“Os fedrwn ni ddefnyddio’n lleisiau tra ein bod ni’n fyfyrwyr, fydd gennym ni fwy o siawns i gael mynd adref yn y dyfodol.

“Ni ydi dyfodol cymunedau Cymru.”

‘Tai fel cregyn’

Daw Mared Edwards yn wreiddiol o ardal Porth Swtan yn Ynys Môn, sydd wedi gweld nifer o bobol yn prynu tai fel cartrefi gwyliau dros y blynyddoedd.

Mae hi’n pryderu bod y gymuned Gymraeg wedi dirywio’n sylweddol yno.

“Ti’n ei weld o’n barod,” meddai.

“Pan dw i’n mynd adref ac yn dreifio drwy’r pentref lleol, mae yna bobol yn cerdded eu cŵn ti erioed wedi eu gweld o’r blaen.

“Does gen ti ddim syniad pwy ydi neb wedi mynd. Rydyn ni’n un o’r unig bobol Gymraeg sydd ar ôl yn yr ardal, ac mae hi’n drist gweld hynny.

“Ti’n gweld faint mae hi’n prysuro bob tro mae hi’n wyliau hefyd, fel yn yr haf neu dros y Pasg, ac eto, mae’r meysydd carafanau yma i gyd yn wag.

“Felly ti’n gwybod mai tai haf sydd gan bobol, a ti’n gweld y tai fel cregyn gweddill y flwyddyn, sy’n bechod.”

Atal yr argyfwng

Wedi i sawl cyngor sir godi premiwm treth ar berchnogion ail gartrefi i 100%, mae Ynys Môn wedi trafod gwneud yr un fath erbyn 2024.

Dywed Mared Edwards nad yw hynny’n ddigon i atal y broblem, a bod angen gweithredu Deddf Eiddo ar unwaith.

“Mae yna gymaint o bobol efo tai haf yn barod, maen nhw’n gallu’u fforddio nhw am reswm,” meddai.

“Mae’n mynd i gymryd lot i stopio pobol rhag prynu nhw.

“Yn amlwg, fydden ni’n licio petai’r Llywodraeth yn gwrando ac yn ymrwymo at y Ddeddf Eiddo rydyn ni’n trio ei gyflawni.

“O hynny, byddai cymunedau’n cael mwy o reolaeth dros stoc tai a’u dyfodol nhw eu hunain, a’u bod nhw ddim yn cael eu cymryd drosodd gan Saeson.”