Mae’r RSPCA wedi cyhoeddi canllawiau er mwyn cadw anifeiliaid yn ddiogel yn ystod Storm Eunice.
Daw hyn yn sgil rhybudd coch y Swyddfa Dywydd, sy’n effeithio ar rannau helaeth o’r de heddiw (dydd Gwener, Chwefror 18).
Yn ôl y rhagolygon, gallai’r gwyntoedd gyrraedd cyflymdra o 90m.y.a. mewn rhai llefydd, ac mae rhybudd oren yn ei le hefyd.
Mae’r RSPCA yn annog perchnogion anifeiliaid i gadw llygad ar y rhagolygon er mwyn gallu cynllunio ymlaen llaw i’w cadw nhw’n ddiogel rhag gwyntoedd cryfion a llifogydd.
Maen nhw hefyd yn rhybuddio pobol rhag rhoi eu hunain mewn perygl pe bai anifail yn mynd i drafferthion.
Canllawiau
Yn ôl yr RSPCA, dylid dilyn y cyfarwyddiadau canlynol:
- sicrhau bod gan anifeiliaid ddigon o fwyd a meddyginiaeth
- sicrhau bod gan gathod fynediad i’r tŷ neu rywle cynnes dan do
- cynllunio i fynd â’r ci am dro pan fydd y tywydd yn gostegu ychydig, ac osgoi unrhyw le peryglus
- rhoi gôt ar eich ci os yw’n hen, yn sâl neu’n teimlo’r oerfel
- gwisgo dillad llachar os yw’n dywyll
- sicrhau bod gan anifeiliaid rywle tawel i fynd os yw sŵn y stormydd yn codi ofn arnyn nhw
- sicrhau bod gan anifeiliaid bopeth sydd eu hangen arnyn nhw os ydyn nhw’n cael eu cadw yn yr awyr agored
- symud anifeiliaid sy’n byw yn yr awyr agored i rywle diogel dan do mewn tywydd eithafol
- sicrhau bod gennych chi gynllun i symud anifeiliaid mewn llifogydd a bod modd cadw anifeiliaid ar dennyn pe bai’n rhaid eu symud nhw
- symud ceffylau i’r stablau mewn tywydd eithafol
- sicrhau bod rhywun arall wrth law i helpu i gadw anifeiliaid yn ddiogel os nad oes modd i chi fynd atyn nhw mewn tywydd garw
- rhoi eich manylion cyswllt ar gatiau pe bai argyfwng yn codi
- sicrhau bod bwyd a diod gan anifeiliaid gwyllt, a cheisio cymorth os ydych chi’n dod o hyd i anifail sydd wedi’i anafu
Mae gan yr RSPCA swyddogion sydd wedi’u hyfforddi i ymdopi ag achosion yn ystod tywydd garw, yn ogystal â chychod.
Mae timau argyfwng wrth law i ymateb i argyfyngau yn ystod llifogydd, ac maen nhw’n annog pobol i beidio â pheryglu eu hunain, ac i droi atyn nhw os oes angen cymorth.
Mae modd ffonio’r RSPCA ar 0300 1234 999 am gyngor.