Storm Eunice – y diweddaraf

Mae rhybudd coch yn ei le mewn rhannau o Gymru, sy’n golygu bod perygl i fywydau. Cewch chi’r diweddaraf yma

Mae mwy na 1,800 o gartrefi heb drydan fore heddiw (dydd Gwener, Chwefror 18) o ganlyniad i Storm Eunice.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd coch, sy’n golygu bod perygl i fywydau wrth i’r gwynt godi i gyflymdra o fwy na 90m.y.a. mewn rhai ardaloedd, yn enwedig ar hyd yr arfordir.

Daeth y rhybudd coch i rym am 7y.b., ac fe fydd yn ei le tan ganol dydd.

Mae rhybudd oren yn ei le ers 3y.b. ac fe fydd yn ei le tan 9 o’r gloch heno.

13:26

Mae Newyddion S4C yn adrodd bod difrod wedi ei wneud i do Canolfan yr Egin yn dod yn rhydd.

Roedd lluniau ar Twitter yn dangos darnau o’r to’n cael ei chwythu oddi ar yr adeilad gan wyntoedd cryfion Storm Eunice.

Yn y cyfamser, mae’r Swyddfa Dywydd wedi cadarnhau bod y rhybudd gwynt ar gyfer Cymru gyfan wedi gostwng o rybudd coch i rybudd ambr.

Mae hynny dal yn golygu y gallai malurion achosi perygl i fywyd, a bod difrod i adeiladau yn debygol.

Ar ben hynny, bydd trafnidiaeth a chyflenwadau trydan yn debygol o gael eu heffeithio gan wynt y storm, ac mae pobol yn cael eu rhybuddio am beryglon coed a thonnau’r mor.

 

12:56

Yn dilyn gwyntoedd cryfion yn y brifddinas, mae adeilad ar Gampws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd yn ardal Lecwydd wedi cael ei ddifrodi’n sylweddol.

Mae’r adeilad yn un o gyfleusterau clwb pêl-droed Caerdydd, a’n cael ei ddefnyddio gan dimau chwaraeon lleol er mwyn ymarfer.

Wedi ei leoli ar gyrion Stadiwm Dinas Caerdydd, mae’r cyfleuster yn cael ei adnabod fel ‘air dome’, ac yn gae pêl-droed sydd wedi ei orchuddio gan do ffabrig.

Mae lluniau’n dangos y to wedi ei ddatgymalu ac yn chwifio yn y gwynt.

Mae Heddlu’r De wedi anfon swyddogion i’r safle ac wedi rhybuddio trigolion i osgoi’r ardal am y tro.

12:54

Mae Heddlu’r De wedi bod yn ymateb i alwadau am lori sydd wedi moelyd ar yr M4 yn ardal Margam.

Ym Mhorthcawl, mae un o brif strydoedd y dref ynghau gan fod teils toeon yn cael eu chwythu i’r ffordd ger Gwesty Porthcawl.

 

12:01

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud y bydd rali Nid yw Cymru ar Werth yn mynd yn ei blaen yn Aberystwyth fory (19 Chwefror) er gwaetha’r tywydd garw.

Gan fod y rhagolygon yn “addawol” fory, bydd y rali’n dechrau wrth Y Lanfa ger Pont Trefechan am 1:30yh.

Bydd Heledd Gwyndaf, cyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, yn annerch y dorf, cyn bod gorymdaith drwy’r dref at swyddfeydd Llywodraeth Cymru.

Yno, bydd Bryn Fôn, Mabli Siriol, Mared Edwards, Tecwyn Ifan, a Gwenno Teifi yn siarad.

Er hynny, mae’r prom yn Aberystwyth ar gau heddiw yn sgil y storm, meddai Cyngor Ceredigion, ac roedd y môr i weld yn wyllt ar Draeth y De fore heddiw.

Myfyrwyr yw “dyfodol cymunedau Cymru,” yn ôl Llywydd UMCA ar drothwy rali Tynged yr Iaith 2022

Gwern ab Arwel

Mared Edwards i annerch y rali i ddathlu 60 mlynedd ers Tynged yr Iaith, sy’n cael ei chynnal ddydd Sadwrn (Chwefror 19) yn Aberystwyth

11:34

Mae’r ffotograffydd Richard Jones wedi cyhoeddi lluniau’r llanw uchel yng Nghaernarfon ar ei gyfrif Twitter.

11:23

Mae’r ddwy bont dros yr Hafren, Pont Hafren yr M48 a Phont Tywysog Cymru yr M4, bellach wedi’u cau i’r ddau gyfeiriad oherwydd gwyntoedd cryfion.

Dyma’r tro cyntaf erioed i’r ddwy bont orfod cau yn sgil y gwynt, mae’n debyg.

Mae timau rheoli ar eu ffordd yno nawr i nodi bod yr M4 ar gau, ac mae pobol yn cael eu hannog i beidio teithio at y pontydd.

11:10

Mae gwyntoedd o 87 milltir yr awr wedi cael eu cofnodi yn y Mwmbwls, sef y cryfaf yng Nghymru hyd yn hyn.

Erbyn hyn, mae tua 7,000 o gartrefi yn y de heb drydan, yn ôl Western Power Distribution.

Y brif broblem ar hyn o bryd yw bod coed yn disgyn a sbwriel yn hedfan yn y gwynt yn tynnu gwifrau trydan lawr, meddai’r cwmni.

Mae coed wedi disgyn yn ei gwneud hi’n anodd i weithwyr fynd at y diffygion, hefyd.

10:56

Mae lôn 1 a 2 ar yr M4 tua’r Gorllewin rhwng cyffordd 37 Y Pîl a chyffordd 38 Groes wedi’u blocio ar ôl i lori droi drosodd.

Ar hyn o bryd, mae’r drydedd lôn ar agor, ac mae Traffig Cymru’n rhybuddio pobol i fynd yn eu blaenau’n ofalus.

10:52

Mae’r RSPCA yn cynghori perchnogion anifeiliaid i lunio cynlluniau rhag ofn iddyn nhw gael eu heffeithio gan lifogydd.

Maen nhw’n annog pobol i symud anifeiliaid i dir uwch os oes llifogydd, neu symud anifeiliaid anwes tu mewn, a’u rhoi nhw fyny grisiau os yn bosib.

“Rydyn ni’n annog perchnogion anifeiliaid anwes i gadw llygad ar y rhagolygon tywydd eu hardal nhw, a chynllunio ymlaen llaw i sicrhau diogelwch eu hanifeiliaid,” meddai llefarydd ar ran yr RSPCA, Amy Ockelford.

“Gwnewch yn siŵr bod gennych chi gynllun fel eich bod chi’n gwybod sut i gael eich teulu, ac eich anifeiliaid, allan o berygl pe bai llifogydd yn eich effeithio.

“Mae llifogydd yn codi’n sydyn felly byddwn ni’n annog pobol i weithredu’n gynnar, a pheidio byth roi eu hunain mewn perygl i helpu anifeiliaid ond, yn hytrach, galw ein tîm achub brys ar 0300 1234 999 am help.”

Logo RSPCA

Rhybudd ynghylch diogelwch anifeiliaid o ganlyniad i Storm Eunice

Mae’r RSPCA wedi cyhoeddi canllawiau yn sgil y tywydd

10:29

Yn ôl Western Power Distribution, gallai ardal Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin fod heb drydan tan 1yp.

Maen nhw’n dweud bod peirianwyr yn ceisio datrys y sefyllfa ar hyn o bryd, ac wedi ymddiheuro am yr anghyfleustra.