Bu farw’r Parchedig Cledwyn Parry, Dinbych, yn 97 oed, yn Ysbyty Glan Clwyd ar ôl cyfnod byr o gystudd.
Lai na dwy flynedd yn ôl bu’n dathlu 70 mlynedd yn y weinidogaeth.
Yn frodor o Gaernarfon, bu ganddo yn ystod ei oes naw gofalaeth, a gofal am ugeiniau o gapeli, gan wasanaethu am ddeugain mlynedd yn Nyffryn Clwyd.
Roedd yn un o naw o blant a fu’n ffyddlon yng nghapel Ebeneser, Caernarfon.
Dechreuodd bregethu yng nghapel bach Tŷ’n Lôn ger Caernarfon, yn ddwy ar bymtheg oed.
Un o’i frodyr oedd Geraint Parry, y nofelydd poblogaidd.
Bu yng ngwasanaeth post y Llu Awyr yn y dwyrain pell adeg yr Ail Ryfel Byd, a phregethu yn Colombo, Sri Lanca cyn mynd ymlaen i Hong Kong.
Y weinidogaeth
Dychwelodd i fynychu Coleg Handsworth y Methodistiaid yn Birmingham a rhoi oes o wasanaeth i eglwysi enwad y Wesleaid ledled Cymru.
Cychwynnodd yng Nghricieth a’r Rhos.
Symudodd i Gonwy ac i’r de i Lanbedr Pont Steffan, cyn mynd yn ôl i’r gogledd, a threulio cyfnodau ym Mlaenau Ffestiniog, Bethesda, Dinbych, Rhuthun a’r Rhyl.
Yn ystod y cyfnod hwn bu’n fawr ei ofal o Eunice, ei wraig, y cyfarfu â hi mewn cynhadledd Fethodistaidd, cyn ymddeol i Ddinbych.
Cyfunodd hyn â bod yn gaplan mewn sawl ysbyty.
‘Gŵr eangfrydig a llengar’
Byddai ganddo storïau cynnes a ffraeth am ei brofiadau, ac wrth wynebu enciliad capeli, gwyddai yn well na neb bod angen addasu i’r oes, rhoi’r gorau i ofalu am adeiladau, a newid trefn addoli.
Roedd yn gas ganddo gulni crefyddol.
Yn ŵr eangfrydig a llengar, roedd yn eithriadol o hyddysg yn ei faes, ac eto’n meddu ar hiwmor cellweirus.
Bydd hiraeth ar ei ôl yng nghapel Pen-dre, Dinbych ac ymysg ei blant, Catrin, Siân a Gwynedd, a’u teuluoedd; ei wyrion ac wyresau, Lliwen, Mared, Caeron, Steffan a Gwydion, a’i or-ŵyr Twm Llew.