Bydd y cwrs cyntaf i ddysgu Tsieinëeg drwy gyfrwng y Gymraeg yn dechrau yn fuan, ac mae Yuqi Tang, y tiwtor, yn dweud bod tebygrwydd rhwng y ddwy iaith.
Mae Yuqi Tang yn dod o Shanghai yn wreiddiol, a dyma fydd y tro cyntaf iddi ddysgu cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd y cwrs sgwrsio deng wythnos, sydd wedi cael ei ddatblygu gan Athro Confucius Prifysgol y Drindod Dewi Sant, yn mynd â dysgwyr ar daith rithwith o amgylch Tsieina.
Fe fydd y cwrs yn canolbwyntio ar Tsieinëeg llafar, gan ystyried sefyllfaoedd bob dydd hanfodol y byddai teithwyr yn debygol o’u hwynebu yn y wlad.
Mae nifer o elfennau tebyg rhwng y Gymraeg a Tsieinëeg, meddai Yuqi Tang, ac un o’r rhai amlycaf yw’r ffordd mae geiriau’n gweithio ac yn cael eu rhoi at ei gilydd.
“Er enghraifft, yn Tsieineeg ‘volcano‘ yw ‘huǒshān’, sy’n golygu ‘tân mynydd’, yn y Gymraeg ‘volcano’ yw ‘llosgfynydd’… mae’n debyg iawn,” meddai Yuqi Tang wrth golwg360.
“Mae llawer o enghreifftiau eraill, ond dyma un tebygrwydd rhwng y ddwy iaith.
“Yn Tsieinëeg, i ateb cwestiwn, dydyn ni ddim yn defnyddio ‘yes’ neu ‘no’. Mae hwn yn dibynnu ar y cwestiwn.”
Mae’r atebion i gwestiynau yes/no yn amrywio mewn Tsieinëeg yn yr un ffordd â’r Gymraeg, eglurodd Yuqi Tang.
“Mae’r ddwy iaith yn hen iawn, iawn hefyd,” ychwanegodd.
Oni bai am y wyddor, un elfen sy’n wahanol iawn rhwng y ddwy iaith yw ynganiad llythrennau, meddai Yuqi Tang.
“Yn Gymraeg, mae pobol yn defnyddio sŵn fel ‘ll’ a ‘r’, rowlio’r tafod. Ond yn Tsieinëeg, does dim sŵn fel yna o gwbl.
“Ond rydyn ni’n defnyddio sŵn sy’n rhyfedd i bobol sy’n siarad Cymraeg, fel ‘zh’, a ‘chu’.”
‘Ddim yn gwrs traddodiadol’
Mae’r cwrs, ‘Tsieinëeg er mwyn Goroesi’, yn cael ei gynnal ar-lein, a bydd dysgwyr yn cael eu cyflwyno i frawddegau a geirfa sylfaenol yr iaith er mwyn eu paratoi ar gyfer teithio i Tsieina, o gynllunio’r daith i lanio yn Beijing, i deithio i safleoedd amlwg y wlad, siopa, a sgwrsio â phobol leol.
“Dw i wrth fy modd yn cael bod yn dywysydd ar y daith rithwir 10 diwrnod hon,” meddai Yuqi Tang.
“Mae Tsieina’n enwog am ei Mur Mawr, ei megaddinasoedd sy’n newid ar gyflymder gwyllt, ac wrth gwrs ei thrysor cenedlaethol, sef yr hen bandas hoffus.
“Bydda i’n eich helpu chi i lywio’ch ffordd o gwmpas y wlad gymhleth.
“Dydw i ddim yn edrych ar y cwrs fel cwrs traddodiadol, mae fel taith rithiol i Tsieina, ac wedyn mae llawer o hapusrwydd, a hwyl yn y cwrs, gydag ychydig bach o iaith ar y top.
“Y cwrs fydd y tro cyntaf y bydda i’n dysgu cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg… nerfus iawn!”
Mae’r cwrs yn addas i unrhyw un sydd heb fawr ddim gwybodaeth flaenorol am iaith a diwylliant Tsieina, ac yn sylfaen i unrhyw un sy’n bwriadu teithio i’r wlad i astudio, mwynhau, neu weithio, neu sy’n awyddus i ddysgu mwy am y wlad.
Bydd y fersiwn Gymraeg o’r cwrs yn dechrau ar-lein ar Ddydd Gŵyl Dewi, a bydd fersiwn Saesneg yn dechrau wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Busnes a Diwylliant Tsieina Athrofa Confucius yn Ysgol Fusnes Abertawe y Drindod Dewi Sant y diwrnod canlynol ar Fawrth 2.
Mae’n bosib cael mwy o wybodaeth a chofrestru ar wefan Athrofa Confucius.