Mae milfeddyg wedi rhybuddio y gallai caniatáu mewnforio cynnyrch cig penodol fod yn “newyddion gwael” i ffermwyr ledled y wlad.

Roedd adroddiadau yr wythnos hon yn honni y byddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn barod i lacio deddfwriaeth sy’n ymwneud â mewnforio cig er mwyn bodloni cytundeb masnach â Chanada.

Yn rhan o hynny, byddai cyfraith sy’n gwahardd mewnforion cig o anifeiliaid sydd wedi eu trin gyda rhai hormonau penodol yn cael ei diddymu.

Mae’r gyfraith wedi bod mewn grym yn y Deyrnas Unedig ers diwedd y 1980au, ar ôl i’r Undeb Ewropeaidd wahardd cynnyrch o’r fath rhag cael ei fewnforio a’i gynhyrchu o fewn ei ffiniau yn sgil pryderon iechyd.

Roedd nifer yn ofni bod yr hormonau hyn yn gallu aros yn y cig pan mae’n cael ei brynu a’i fwyta, ac felly yn ansicr ynglŷn â phrynu cynnyrch o’r fath.

Mae’n debyg mai prif bwrpas trin anifeiliaid gyda hormonau penodol yw lleihau’r amser mae’n ei gymryd i’r cig dyfu.

Pryderon

Dywed Colin Willson, Llywydd y gangen Gymreig o Gymdeithas Filfeddygol Prydain (BVA), ei fod yn cofio’r gwaharddiad yn cael ei gyflwyno.

“Fel milfeddygon, roedden ni’n gweld ffermwyr yn gwneud hyn llawer iawn o’r blaen,” meddai wrth golwg360.

“Ond fe oedd yna bryderon bod potensial i’r sylweddau hynny aros mewn cig ar ôl i’r anifail gael ei ladd, ac felly roedd yna botensial ei fod yn cael effaith ar bobol oedd yn bwyta’r cig.

“Doedd yna byth tystiolaeth gadarn ei fod yn cael effaith ar bobol, roedd o wastad yn ddim byd ond pryder.

“Wedi dweud hynny, rydych chi’n gallu deall pam y byddai cwsmeriaid yn bryderus bod y cig maen nhw’n ei fwyta o bosib wedi dod o anifail sydd wedi ei drin gyda hormonau.

“Oherwydd hynny, fe wnaeth yr Undeb Ewropeaidd benderfynu gwahardd y defnydd o gynnyrch hormonau mewn eidion.

“Yn amlwg, mae hynny’n parhau i ddigwydd yn y Deyrnas Unedig oherwydd ein bod ni’n parhau i ddilyn llawer o ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd, ond fe allan ni ddiwygio’r gyfraith i ganiatáu mewnforio’r cynnyrch hyn o nawr ymlaen.”

‘Newyddion gwael’

Mae Colin Willson yn teimlo y byddai’r gwaharddiad mwy na thebyg yn cael ei godi ar gyfer pob gwlad yn y byd, nid yn unig ar gyfer Canada.

“Mae gwledydd ar draws y byd yn defnyddio’r cynnyrch hyn, ond ddim yn eu mewnforio i’r Undeb Ewropeaidd na’r Deyrnas Unedig ar hyn o bryd,” meddai wedyn.

“Felly bydden ni’n agor y drws i lot fawr o gynnyrch. Hefyd, mae’n bosib y byddai’r cig yma’n cael ei gynhyrchu ar gost llawer is na’r gost i ffermwyr y Deyrnas Unedig.

“O ran y gystadleuaeth honno, gallai fod yn newyddion gwael i ffermwyr y Deyrnas Unedig.”

Colli marchnad

“Pryder arall yw’r posibilrwydd y byddai masnach gyda’r Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddifrodi,” meddai.

“Gallai Ewrop feddwl: ‘Wel os ydych chi’n mewnforio’r cig hyn, sut ydyn ni’n siŵr na fydd o’n dod yn ôl i fan hyn?’

“Mae Ewrop yn farchnad fawr i ni, ac mae wastad wedi bod, felly mae’n bryder mawr fod posibilrwydd y byddwn ni’n mynd i mewn i ffrae gyda nhw.

“I bob pwrpas, byddai colli masnach gydag Ewrop yn cael effaith fwy sylweddol nag y byddai mewnforio cig o wledydd fel Canada sy’n trin anifeiliaid gyda hormonau.”

Angen sicrhau ‘sefyllfa deg i ffermwyr Cymru’

Wrth ymateb i’r newyddion, dywed Hybu Cig Cymru eu bod nhw’n anghytuno â llacio’r cyfyngiadau, oherwydd y perygl y byddai cynnyrch Cymreig yn cael ei “danseilio”.

“Mae’n bwysig iawn bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau sefyllfa deg i ffermwyr Cymru sy’n glynu wrth y safonau uchaf o ran lles anifeiliaid, diogelwch bwyd, olrheinedd ac ansawdd eu cynnyrch cig coch,” meddai llefarydd.

“Ni fyddai diwydiant cig coch Cymru’n dymuno gweld cig o’r fath yn cael ei fewnforio i’r Deyrnas Unedig er mwyn bodloni cytundeb masnach newydd gydag unrhyw wlad.

“Byddai perygl i hyn danseilio’r farchnad ac enw da cig coch o Gymru. Er hynny, rydym yn ffyddiog y byddai cwsmeriaid ffyddlon yn parhau i ddewis Cig Eidion Cymru sy’n enwog am fod yn naturiol, yn gwbl olrheiniadwy ac am y dulliau cynhyrchu cynaliadwy.”