Mae angen ystyried y Gymraeg fel “rhywbeth gwleidyddol”, yn ôl yr awdur ac ymgyrchydd iaith Angharad Tomos.

Wrth edrych yn ôl ar y 60 mlynedd ers darlith radio Saunders Lewis yn rhybuddio am dranc yr iaith, dywed Angharad Tomos bod ymgyrchwyr wedi ymateb yn anrhydeddus, ond nad yw’r awdurdodau wedi bod â’r ewyllys gwleidyddol i weithredu.

Trwy groen eu dannedd mae’r awdurdodau’n gwneud y “pethau lleiaf posib” i helpu’r iaith, meddai.

Dim ond drwy sicrhau ewyllys gwleidyddol y mae modd gwella sefyllfa’r iaith heddiw, eglura Angharad Tomos, gan ddweud bod Tynged yr Iaith wedi bod yn un dylanwad wrth iddi ymgyrchu dros yr iaith yn yr 80au.

“Fyswn i’n dweud bod Saunders Lewis wedi agor y drws, a bod ymgyrchwyr wedi ymateb yn anrhydeddus, ond bod y drws yna wedi cael ei gau’n glep wedyn,” meddai wrth golwg360.

“Fe wnaeth o roi’r agenda yn eithaf pendant, a dydy’r awdurdodau ddim wedi ymateb.”

Consesiwn ‘trwy groen eu dannedd’

Tua diwedd yr 80au, aeth Angharad Tomos i Barcelona ar ran Cymdeithas yr Iaith, ac mae hi’n cofio’r argraff gafodd y profiad o weld llywodraeth yn fwriadol hyrwyddo’r iaith arni.

“Roeddwn i’n meddwl, tasan ni’n cael Senedd i Gymru, dyma’r gwaith fyddai Senedd yn ei wneud – cymryd pob cyfle posibl,” meddai.

“Dw i’n teimlo, efo Llywodraeth Lloegr a Llywodraeth Cymru, rydych chi’n ymgyrchu ac yn ymgyrchu, a thrwy groen eu dannedd maen nhw’n rhoi unrhyw gonsesiwn, a chonsesiwn ydy o, y lleiaf posib bob tro. Hwnna sy’n peri i mi fod yn ddigalon.

“Mater gwleidyddol ydy o. Os fysa’r ewyllys yna i newid sefyllfa’r Gymraeg go iawn, mi allan nhw ei wneud o.

“Mae’r ffordd wnaeth ymgyrchwyr ymateb i Saunders Lewis, mi gafwyd y polisïau, a diffyg gweithredu ar ran yr awdurdodau sy’n gyfrifol am pam ein bod ni yn y sefyllfa yma heddiw.

“Be dw i’n ei deimlo sydd ei angen rŵan ydy cymryd y Gymraeg fel rhywbeth gwleidyddol. Dyna’r unig beth dw i wedi’i weld yn gweithio dros y blynyddoedd.

“Os oes gennych chi’r ewyllys gwleidyddol, ac os ydych chi’n credu y dylai’r iaith barhau, yna rydych chi’n gwneud popeth i sicrhau dyfodol iddi.”

Cyfrifoldeb ar eich ysgwyddau

Fe fuodd Angharad Tomos yn y carchar chwe gwaith am ymgyrchu dros yr iaith, a thros S4C, ond mae hi’n dweud mai’r weithred ei hun oedd yn bwysig, ac nid y goblygiadau.

“Roeddwn i eisiau gwneud fy rhan, roedd caneuon Dafydd Iwan yn dweud ‘Pwy ddoith i’w hachub? Tybed, tybed wnei di?’” meddai.

“Roeddech chi wedi gwrando ar y rhain ers roeddech chi tua deuddeg oed, ac roeddech chi eisiau gwneud eich rhan.

“Doeddech chi ddim yn meddwl am y carchar, roeddech chi’n meddwl gymaint oedd angen gwneud rhywbeth.

“Mynd yn ôl at ddarlith Saunders Lewis, roedd o wedi dweud bod angen gwneud hyn i achub y Gymraeg wedyn, rywsut, doedd y canlyniadau ddim yn bwysig.

“Y weithred ei hun oedd yn bwysig a derbyn cyfrifoldeb. Gweithredu gymaint ag oeddech chi’n gallu yn y gobaith y byddech chi’n datrys y broblem, ac wedyn mynd ymlaen drwy fywyd heb sylweddoli ei bod hi’n frwydr am oes.”

Roedd y teimlad ei bod hi eisiau gwneud ei rhan yn gysylltiedig â’i hymwybyddiaeth o hanes Cymru, meddai, a’r ffordd roedd ei rhieni’n genedlaetholwyr.

“Rydych chi’n cael yr etifeddiaeth yna, ac mae o’n disgyn ar eich ysgwyddau chi, ac wedyn rydych chi’n gwybod ‘Fy amser i ydy gweithredu rŵan’.

“Os ydych chi’n ymwybodol o hanes Cymru, ac roeddwn i wedi’i gael o ers pan roeddwn i’n blentyn, roedd o’n gyfrifoldeb.

“Yr un fath â phan mae pobol yn dweud, ‘Rydych chi’n cael benthyg y tir’… ‘Rydych chi yma yng Nghymru am gyfnod, fel rhan o’ch bywyd chi mae’n rhaid i chi warchod y winllan, mewn ffordd’.”

‘Ar y dibyn’

Roedd diwylliant yr oes yn ffactor yn yr 80au hefyd, meddai Angharad Tomos, ac roedd methiant refferendwm datganoli 1979 yn ffitio’r naratif hwnnw.

“Dw i’n cofio drama gan Siôn Eirian, Cofiant y Cymro Olaf, a dw i wastad wedi teimlo mai ni ydy’r genhedlaeth olaf i siarad Cymraeg, ein bod ni ar y dibyn… dw i ddim yn gwybod pa mor iach ydy hyn!”

Wrth i ystadegau siaradwyr Cymraeg ostwng o sensws i sensws, roedd Angharad Tomos yn sylweddoli bod ymgyrchwyr yn teimlo mai nhw oedd ar fai, yn hytrach nag ystyried y dylai’r awdurdodau deimlo’r euogrwydd yn fwy na’r ymgyrchwyr.

“Ddylai’r ymgyrchwyr wneud be fedran nhw, ond pan mae’r graff yna’n mynd lawr rydyn ni’n teimlo ‘Os fysa ni ond wedi gweithio ychydig bach mwy…’”

Mae Angharad Tomos yn brwydro yn erbyn y syniad bod yr 80au, neu hyd yn oed y 60au, yn ‘Oes Aur’ ar gyfer ymgyrchu dros yr iaith.

“Pan roeddwn i’n dechrau ymgyrchu ynghanol y 70au, roedd pobol yn dweud ‘Biti fysa chi wedi cael yr Oes Aur’, a chyfeirio at y 60au fel yr ‘Oes Aur’.

“Roeddwn i’n teimlo ‘O, dw i wedi colli allan ar ryw Oes Aur’, ond rŵan maen nhw’n sôn am yr 80au fel yr ‘Oes Aur’. Dw i’n brwydro yn erbyn y rhamantu yna.”