Gallai’r rheiny sy’n bwriadu prynu tŷ haf yng Nghymru orfod talu treth tir uwch yn dilyn cynlluniau sy’n cael eu hystyried gan weinidogion.

Mae ymgynghoriad wedi ei lansio sy’n edrych ar gynyddu’r Dreth Trafodiadau Tir, y fersiwn Gymreig o’r dreth stamp, ar gyfer ail gartrefi neu letyau gwyliau tymor byr.

Er y gallai’r newidiadau gael eu cyflwyno ledled Cymru, bydd yr astudiaeth – sy’n seiliedig ar ganfyddiadau adroddiad gan Dr Simon Brooks – hefyd yn ystyried cyflwyno cynnydd mewn ardaloedd lle mae ail gartrefi yn cael effaith enbyd ar y farchnad dai neu gymunedau Cymraeg.

Awgrymodd y Gweinidog Tai, Julie James y dylai pob perchennog ail gartrefi fod yn gwneud “cyfraniad teg i’r cymunedau maen nhw’n prynu eiddo ynddynt” ac awgrymodd archwiliadau llymach a newidiadau posib i drethi lleol.

Dogfen ymgynghori

Ar hyn o bryd, rhaid i bobol sydd am brynu ail gartrefi neu gartrefi gwyliau yng Nghymru dalu treth o 4% o leiaf ar ben yr hyn sy’n daladwy ar gyfer eu band – mae hyn wedi cynyddu o 3% ers mis Rhagfyr 2020.

Mae’r gyfradd uwch hon yn cael ei gweithredu pan werthir tŷ i rywun sydd eisoes yn berchen ar eiddo arall – felly gall hefyd gynnwys pobl sy’n prynu tai i’w rhentu allan, a rhywun sy’n dal i geisio gwerthu eu cartref gwreiddiol o bosib.

4% sy’n daladwy ar eiddo a werthir am hyd at £180,000 – yna mae’r gyfradd yn codi i 7.5% ar werthiannau rhwng £180,000 a £250,000 ac ar raddfa gynyddol hyd at 16% ar anheddau a werthir am £1.5m neu fwy.

Mae’r dogfennau ymgynghori’n nodi: “Mae LTT yn dreth episodig, a godir wrth brynu, felly mae’n debygol o gael effaith gyfyngedig, yn y tymor byr-i-ganolig, ar y gyfran bresennol o eiddo gwyliau tymor byr neu ail gartrefi mewn cymuned.

“Fodd bynnag, gallai helpu i leihau nifer y pryniannau yn y dyfodol, a thros y tymor hwy gallai fod o gymorth fel rhan o gyfres ehangach o ymatebion i fynd i’r afael â materion sy’n gysylltiedig ag ail gartrefi.”

Diwygio

Yn ystod 2020/21 yng Ngwynedd, roedd rhaid i 720, neu 37.5%, o brynwyr tai dalu’r gyfradd dreth uwch, ond yn Nwyfor Meirionnydd, roedd y ffigwr yn 44%.

Dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn, mai dim ond un ateb yw cynyddu’r dreth tir, gan ailadrodd galwadau i gau rhai o’r “bylchau” mae perchnogion ail gartrefi yn manteisio arnyn nhw.

“Mae’r dreth tir yn un offeryn a allai gael ei ddefnyddio i gael mwy o reolaeth ar ail gartrefi,” meddai.

“Ond mae hwnnw ond yn un taliad untro.

“Yn fy marn i, mae angen diwygio Adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol yn fwy effeithiol, er mwyn sicrhau bod pob eiddo yn talu’r dreth cyngor yn ogystal ag unrhyw bremiwm o flwyddyn i flwyddyn.”

‘Mynd i’r afael ag anghyfiawnder perchnogaeth ail gartrefi’

Dywedodd Mabon ap Gwynfor, yr Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, bod y cynnydd i 4% “heb fynd yn ddigon pell”.

“Yng Ngwynedd, mae’r niferoedd yn dangos bod ail gartrefi yn achosi i brisiau tai barhau i gynyddu ac rydym wedi galw’n gyson am dreblu’r dreth tir ar gyfer ail gartrefi,” meddai.

“Er bod angen gwahaniaethu rhwng lletyau gwyliau lleol sy’n darparu ar gyfer yr economi twristiaeth leol, mae’r doreth o ail gartrefi, sy’n cael eu defnyddio am ychydig wythnosau’r flwyddyn gan bobol sy’n byw mewn mannau eraill y rhan fwyaf o’r amser, yn wael i’n cymunedau, yn ddrwg i dwristiaeth ac yn ddrwg i’n heconomi.

“Mae gan y Dreth Trafodiadau Tir rôl allweddol i’w chwarae, fel rhan o becyn ehangach o fesurau, i fynd i’r afael ag anghyfiawnder perchnogaeth ail gartrefi a’i gyfraniad at yr argyfwng tai ehangach sy’n wynebu ein cymunedau.

“Yr wythnos hon, siaradais â llywodraeth Geidwadol Ontario, lle mae ganddynt dreth debyg o 15% ar werthiannau eiddo i bobol sydd ddim yn ddinasyddion, ac mae hwn yn fodel y gallai Cymru edrych arno.”

Wrth annog pobol i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ychwanegodd: “Mae’n hanfodol i ddyfodol ein cymunedau ein bod ni’n atal y toreth ddilyffethair o ail gartrefi ac yn ei wrthdroi fel bod yr eiddo hyn yn darparu cartrefi sydd eu hangen yn fawr gan bobol leol.”

Mae modd cymryd rhan yn yr ymgynghoriad, sy’n cau ar 28 Mawrth, 2022, ar dudalen ar wefan Llywodraeth Cymru.