Mae un o sylfaenwyr ac aelodau mwyaf blaenllaw Merched y Wawr, Sylwen Lloyd Davies, wedi marw yn 88 mlwydd oed.

Roedd hi’n un o aelodau gwreiddiol Cangen y Parc, sef cangen gyntaf y mudiad yng Nghymru, a gafodd ei sefydlu ar ôl i aelodau dorri i ffwrdd o Sefydliad y Merched yn 1967 oherwydd ei natur uniaith Saesneg.

Rhwng 1998 a 2000, cafodd hi ei phenodi yn Llywydd Cenedlaethol y mudiad, ac ers 2009, daeth hi yn Llywydd Anrhydeddus.

Bu hefyd yn llysgennad i Ferched y Wawr gan deithio dros y blynyddoedd i Lesotho, Sempringham ac i bob cwr o Gymru.

Dywedodd Merched y Wawr ei bod hi wedi “cyfrannu yn helaeth i ddiwylliant Cymru gan wneud y pethau bychain oedd yn golygu cymaint.”

Cyfraniad oes

Dywed Tegwen Morris, Cyfarwyddwraig Cenedlaethol Merched y Wawr, fod ei chyfraniad wedi bod yn “aruthrol dros y blynyddoedd.”

“Roedd hi’n un o sylfaenwyr y mudiad ym 1967, ac yn hwyrach ymlaen, cafodd hi ei phenodi yn Llywydd Cenedlaethol, ac wedyn yn Llywydd Anrhydeddus,” meddai wrth golwg360.

“Roedd hi’n berson brwdfrydig, ac yn garedig trwy’r holl flynyddoedd.”

Yn 2017, roedd y mudiad yn dathlu ei ben-blwydd yn 50 oed, a dywed Tegwen Morris ei bod hi’n “braf iawn” cael ei phresenoldeb hi ar y diwrnod hwnnw yn y Parc ger Y Bala.

‘Ffrind i bawb’

“Roedd hi’n hawddgar a’n agos iawn atoch chi,” meddai wedyn.

“Bob amser yn barod ei sgwrs a’n gefnogol tu hwnt – o weithgareddau’r mudiad, ac o staff a swyddogion.

“Roedd hi’n ffrind i bawb. Mae nifer o’r aelodau wedi ei disgrifio hi fel mam i oll, ac mae hynny’n ddisgrifiad teg iawn o Sylwen.

“Roedd hi’n drysor i’r genedl ym mhob ystyr.”

Mae Sylwen Lloyd Davies yn gadael wyth o’i phlant hi a’i gŵr, y diweddar Bryn Davies.