Mae Llywodraeth Cymru wedi cael eu cyhuddo o ddilyn “ideoleg woke” drwy ddileu rhyw fiolegol o’r cwricwlwm addysg.

Daw hyn ar ôl i’r Llywodraeth gyhoeddi canllawiau nad ydyn nhw’n crybwyll y termau gwrywaidd neu fenywaidd.

Doedd y Cod Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb ddim chwaith yn cyfeirio’n benodol at “fechgyn”, “merched”, “syth” neu “heterorywiol”.

Cafodd y cod ei drafod am 30 munud yn y Senedd cyn i’r aelodau bleidleisio i’w gwneud yn orfodol addysgu plant rhwng tair ac 16 oed ar y pynciau hyn.

Dywedodd y Ceidwadwr Darren Millar y byddai’r cod yn cyfyngu ar hawliau rhieni i addysgu eu plant yn y materion hyn a’u bod wedi cael eu dylanwadu gan “ideoleg woke“.

‘Rhieni, nid y wladwriaeth, ddylai addysgu plant’

“Rwy’n ystyried rhieni fel addysgwyr cynradd eu plant, nid y wladwriaeth, a chredaf fod dileu’r hawl rhieni i dynnu eu plant yn ôl o wersi addysg rhyw yn cyfyngu ar hawliau a dewis rhieni,” meddai Darren Millar.

“Mae’r cod yn drwm iawn ar barch ond mae’n amlwg nad yw’r parch hwnnw’n ymestyn i lawer o Gristnogion, Mwslimiaid, Iddewon, Hindwiaid, Sikhiaid, aelodau o grefyddau eraill, aelodau o’r gymuned LGBTQ+, neu’r rhai y gallai eu barn fod yn groes i rai Llywodraeth Cymru.

“Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod y cod a’r canllawiau drafft wedi cael eu dylanwadu’n drwm gan ideoleg woke.

“O’r 4,000 o eiriau rydyn ni’n gweld caiff gwryw ei grybwyll unwaith yn unig, tra bod benywaidd yn cael eu crybwyll ddwywaith.

“Dyw dynion ddim yn ymddangos o gwbl a dydy’r geiriau merch, bachgen, syth na heterorywiol ddim chwaith.

“Nid yw unrhyw god addysg perthnasoedd a rhywioldeb sy’n ceisio osgoi’r geiriau hyn yn werth y papur y mae wedi’i ysgrifennu arno.”

Dywedodd Sioned Williams o Blaid Cymru fod gwrthwynebiad a gododd yn ystod yr ymgynghoriad i’r cod yn gynharach eleni “yn aml yn cuddio rhagfarn ac agweddau gwahaniaethol yn erbyn pobol drawsrywiol”.

“Hoffwn ail-gadarnhau ymrwymiad fy mhlaid i sicrhau bod angen clywed a chadarnhau ymatebion a phrofiadau disgyblion LGBTQ+ a’n haddewid parhaus i hyrwyddo hawliau disgyblion LGBTQ+,” meddai.

‘Mwy nag amcan gwleidyddol’

Fe wnaeth Jeremy Miles, yr Ysgrifnenydd Addysg, annog Aelodau o’r Senedd i gefnogi’r cod.

“Os ydym yn wirioneddol ymrwymedig i roi addysg i’n plant a’n pobol ifanc sy’n caniatáu iddynt weld eu hunain yn ganolog iddo a chadw eu hunain rhag niwed a’u paratoi i ddatblygu perthnasoedd iach, yna gadewch i ni gymryd y cam nesaf hwnnw ar y daith honno heddiw,” meddai.

“I rai ohonom mae Cymru gynhwysol yn fwy nag amcan gwleidyddol – mae’n rhag-amod hanfodol i les a diogelwch.

“Mae’r diwygiadau hyn yn helpu i wireddu hynny i’n holl blant heddiw ac i genedlaethau’r dyfodol.”

Pleidleisiodd Aelodau o’r Senedd o 48 i 16 i dderbyn y cod.