Mae Jethro, y digrifwr o Gernyw, wedi marw’n 72 oed ar ôl cael ei daro’n wael gan Covid-19.

Daeth cadarnhad o farwolaeth Geoffrey Rowe gan ei deulu, a hynny er iddo gael dau ddos o frechlyn a dos atgyfnerthu, yn ôl adroddiadau.

Mae’n gadael partner oes, Jennie, dau fab Jesse a Lanyon, llysferch Sarah, merch-yng-nghyfraith Stacey, a’i wyrion.

Mae’r teulu wedi gofyn am breifatrwydd yn dilyn “tristwch eithriadol” o’i golli.

Mae lle i gredu ei fod e wedi cael ei ysbrydoli gan gymeriad yn y gyfres Americanaidd The Beverly Hillbillies wrth ddewis ei enw llwyfan.

Fe ddaeth i’r amlwg gyntaf ar lwyfannau Cernyw a Dyfnaint yn y 1980au, cyn ymddangos ar raglen deledu Des O’Connor yn 1990.

Daeth un o uchafbwyntiau ei yrfa hir wrth iddo ymddangos ar lwyfan y Royal Variety Show yn 2001.

Ond fe ddaeth yr yrfa honno i ben y llynedd wrth iddo gyhoeddi ei ymddeoliad o’r llwyfan.