Mae’r Mudiad Meithrin wedi cael arian er mwyn cyllido PhD ar y Gymraeg a’r Cwricwlwm Newydd yn y Blynyddoedd Cynnar.

Teitl y prosiect fydd ‘Dinasyddion ifainc Cymru ddwyieithog mewn byd amlieithog? Archwilio rôl Addysg Blynyddoedd Cynnar yn fframwaith Cwricwlwm Newydd Cymru’, ac fe fydd yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng y Gymraeg a’r cwricwlwm newydd, a fydd yn cael ei gyflwyno fis Medi nesaf.

Cafodd y cais ei gyflwyno ar y cyd â Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Mae’r Mudiad Meithrin yn dweud “na ellir gwadu rôl hollbwysig Addysg Blynyddoedd Cynnar wrth ddarparu sylfaen gadarn” i addysg 3 i 16 oed, o ystyried y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Maen nhw’n rhagweld y bydd canlyniadau’r prosiect yn gwella eu dealltwriaeth ynghylch sut mae modd annog dysgwyr ifanc o gefndiroedd cymdeithasol ac ethnig amrywiol i ddysgu iaith neu ieithoedd ychwanegol ar sail eu dwyieithrwydd Cymraeg-Saesneg.

‘Cyffrous iawn’

“Mae dyfodiad y Cwricwlwm Newydd yn gyffrous iawn ac rydym yn gobeithio bydd y prosiect hwn yn cyfrannu at wireddu uchelgais yr amcanion a osodir yno,” meddai Dr Geraldine Lublin, arweinydd y tîm goruchwylio.

“Rwy’n edrych ymlaen at gefnogi’r ymgeisydd llwyddiannus ynghyd â gweddill y tîm, sef Dr Alex Lovell o Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe, Dr Mirain Rhys o Adran Seicoleg Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Dr Gwenllian Lansdown Davies o’r Mudiad Meithrin.”

‘Cyfle i ddysgu’

“Prin yw’r gwaith ymchwil ym maes y blynyddoedd cyfrwng Cymraeg,” meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr y Mudiad Meithrin.

“Felly mae’n wych y bydd gennym gyfle i ddysgu oddi ar ganfyddiadau gwaith ymchwil doethuriaeth.

“Mae’n amserol oherwydd bod cyfnod o newid mawr gyda’r cwricwlwm newydd i Gymru ar y gorwel.

“Mae Cylchoedd Meithrin eisoes yn paratoi at y newid hwn a bydd ymchwilio i ddylanwad hynny ar ein dysgwyr ieuengaf yn gyfraniad pwysig i ddysg a datblygiad polisi”.

Mae’n fwriad i’r holl fanylion am y PhD gael eu hysbysebu ym mis Ionawr.