Mae Brian Cox yn dweud mai ei ddymuniad i “roi’r Alban yn gyntaf” oedd yn gyfrifol am ei benderfyniad i adael y Blaid Lafur ac ymuno â’r SNP.

Wrth siarad â rhaglen Andrew Marr ar y BBC ac wrth gyfeirio at Brexit, pwysleisiodd fod yr Alban “o hyd yn cael ei gwthio i’r cyrion”.

Tra bod 62% o Albanwyr wedi pleidleisio o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm yn 2016, fe aadawodd y Deyrnas Unedig beth bynnag.

Mae e hefyd wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth Lafur Tony Blair am fynd i ryfel yn Irac, gan ddweud bod “methiant democratiaeth sosialaidd” hefyd wedi cyfrannu at ei ymadawiad.

Dywedodd iddo leisio darllediadau etholiadol y Blaid Lafur cyn yr etholiad yn 1997, pan ddaeth Blair yn brif weinidog.

“Fi oedd llais Llafur yn 1997, fe wnes i helpu, fe wnes i’r holl hysbysebion ac fe wnes i ymroi’n llwyr i’r peth,” meddai.

“Ond ar ddiwedd y dydd, yr Alban sy’n dod gyntaf i fi.”

Ymddangosodd mewn darllediad arall ar ran y blaid yn 2007, cyn gadael am yr SNP yn 2012 a chefnogi annibyniaeth, gan gymryd rhan yn lansiad Yes Scotland ochr yn ochr ag Alex Salmond, y prif weinidog ar y pryd.

“Does dim digon o amser gyda ni, go iawn,” meddai.

“Mae’n stori hir, ac mae’n fater o’r hyn ro’n i’n ei ystyried yn fethiant democratiaeth sosialaidd.

“Hefyd rhyfel Irac, fe wnaeth hynny effeithio arna i, fe wnaeth hunanhyder Blair effeithio arna i.

“Ac fe welais i’r blaid yn mynd i ryw gyfeiriad ac ro’n i’n bryderus iawn.”

Sosialydd

Ond mae Brian Cox yn mynnu ei fod yn dal i fod yn sosialydd, a’i fod yn cytuno â Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, ar “sawl peth”.

Dywed ei fod e wedi “torri calon” wrth i Lafur wneud colledion yng ngogledd Lloegr yn etholiad cyffredinol 2019.

“Cafodd fy ngwlad ei bradychu yn ddigon hir, dro ar ôl tro.

“Fe wnaethon ni bleidleisio 62% o blaid aros yn Ewrop a chawsom ein hanwybyddu, ac os meddyliwch chi am flynyddoedd Thatcher, cawsom ein hanwybyddu.

“Felly mae’r Alban wedi’i gwthio i’r cyrion erioed.”

Dywedodd ei fod e’n “ifanc ac yn uchelgeisiol” pan oedd e’n cefnogi’r Blaid Lafur, ond ei fod e “wedi ffieiddio” yn sgil yr hyn sy’n digwydd yn yr Alban erbyn hyn a’r ffordd mae’r wlad yn cael ei thrin.

‘Parch a gwrando’

Wrth siarad ar yr un rhaglen, fe wnaeth Syr Keir Starmer gydnabod fod gan y Blaid Lafur “lawer o waith i’w wneud yn yr Alban”.

“Y peth pwysicaf, mewn gwirionedd, yw parch a rhaid bod gwrando ar yr Alban yn rhan ganolog o hyn.”

Ond mae’n mynnu na fyddai Llafur yn taro bargen â’r SNP i geisio ennill grym yn San Steffan.

“Does dim sail i fargen cyn i ni fynd i mewn i etholiad, nac wrth ddod allan o etholiad,” meddai.