Mae swydd Jacob Rees-Mogg, arweinydd Tŷ’r Cyffredin, “yn anghynaladwy” yn dilyn y sgandal safonau, yn ôl y Blaid Lafur.
Mae Thangam Debbonaire, arweinydd cysgodol y Tŷ, wedi ei feirniadu fe a’r llywodraeth am “gydasio” helynt Owen Paterson â’r ymdrechion i ddiwygio’r rheoleiddiwr safonau, gan ddweud ei fod yn fater o “slebogeiddiwch, yn syml iawn”.
“Pe bawn i’n fe, byddwn i’n ystyried fy swydd,” meddai wrth raglen Trevor Phillips on Sunday ar Sky News.
“Dyna dw i’n meddwl y dylai wneud heddiw.
“Dw i’n credu bod ei swydd yn anghynaladwy.”
Cefndir
Roedd Owen Paterson, yr Aelod Seneddol a chyn-Weinidog Ceidwadol, wedi ymddiswyddo gan ddweud bod y diwrnodau diwethaf wedi bod yn rhai “annioddefol”.
Fe fu Aelod Seneddol Sir Amwythig yn destun sylw’r wasg yn dilyn pleidlais ddadleuol i beidio â’i wahardd o’r Senedd am dorri rheolau lobïo honedig.
Fis diwethaf, fe ddyfarnodd Pwyllgor Safonau Trawsbleidiol y Senedd fod Owen Paterson wedi lobïo gweinidogion y llywodraeth ar ran dau gwmni – Randox a Lynn’s Country Foods – oedd wedi talu rhagor na £100,000 y flwyddyn iddo fel ymgynghorydd.
Mewn datganiad, fe ddywedodd fod y “ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn hunllef annioddefol i fy nheulu a minnau”.
Ond roedd yn mynnu ei fod yn gwbl ddieuog “o’r hyn y cefais fy nghyhuddo ohono ac fe weithredais bob amser er budd iechyd a diogelwch y cyhoedd”.
“Ni allaf glirio fy enw o dan y system bresennol,” meddai.
Mae hyn yn golygu y bydd yna is-etholiad yn ei etholaeth, sydd yn sedd ddiogel iawn i’r Blaid Geidwadol.
Cyhoeddodd Owen Paterson y byddai’n ymddiswyddo wedi i Boris Johnson orfod anghofio am gynllun i atal yr aelod seneddol rhag cael ei wahardd ar unwaith, drwy lansio adolygiad i’r holl system ddisgyblu.
Cafodd y cynllun dadleuol gefnogaeth bron i 250 o Aelodau Seneddol Torïaidd, er bod yna wrthwynebiad sylweddol. Ond bu’n rhaid i’r Llywodraeth wneud tro pedol, gan feio diffyg cefnogaeth drawsbleidiol.
Mae’r digwyddiadau wedi arwain at rai Torïaid yn beio’r Prif Chwip Mark Spencer, ond mae Downing Street wedi mynnu bod gan Boris Johnson hyder ynddo a’r “gwaith anhygoel” mae’n ei wneud.
Roedd y cyn-Brif Chwip, Mark Harper, yn un o’r 13 Aelod Seneddol Torïaidd oedd wedi pleidleisio yn erbyn y cynllun, ac roedd yn ymddangos ei fod yn beio Boris Johnson.
Lle yn Nhŷ’r Arglwyddi?
Mae’r posibilrwydd wedi’i grybwyll bellach y gallai Owen Paterson gael ei enwebu i’w dderbyn i Dŷ’r Arglwyddi.
Ond mae Thangam Debbonaire yn mynnu y byddai’r Blaid Lafur yn gwrthwynebu unrhyw ymgais i wneud hynny.
“Yn amlwg, fydden ni ddim yn argymell unrhyw un fel Mr Paterson ar gyfer arglwyddiaeth, ac rwy’n gobeithio bod y prif weinidog yn dod at ei goed ac yn wfftio hynny,” meddai.
Aeth yn ei blaen i bwysleisio’r angen i aelodau seneddol ymddwyn yn well yn ôl y safonau disgwyliedig.
“Gobeithio hefyd fod Boris Johnson yn ystyried ei swydd ei hun y penwythnos hwn ac yn cymryd y camau sydd angen eu cymryd i drwsio enw da gwleidyddiaeth y mae e wedi’i niweidio.”