Mae undeb amaeth wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o dorri addewid maniffesto ar gyllid i gefn ngwlad.

Yn y gyllideb ddydd Mercher (Hydref 27) mae’r llywodraeth wedi clustnodi tua £300 miliwn y flwyddyn i ddiwydiant amaeth Cymru dros y tair blynedd nesaf

Mae hyn yn sylweddol lai o gyllid yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru sy’n dweud ei fod £37 miliwn yn llai nag yn 2019.

Mae’r Undeb yn honni pe byddai Cymru yn parhau i fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, fe fyddai’r sector amaeth wedi elwa o £334 miliwn.

Yn y Gyllideb, dywedodd y Canghellor Rishi Sunak ei fod wedi’i anelu at fuddsoddi mewn “economi fwy arloesol, medrus”.

Fodd bynnag, nid oedd ei araith yn sôn yn uniongyrchol am ffermwyr, amaethyddiaeth na Brexit.

Addawodd maniffesto’r Ceidwadwyr i “warantu’r gyllideb flynyddol bresennol [Polisi Amaethyddol Cyffredin) i ffermwyr ym mhob blwyddyn o’r Senedd nesaf.”

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart yn galw arno i anrhydeddu’r addewid maniffesto.

“Mae penderfyniad Llywodraeth Prydain i dorri cyllideb amaethyddiaeth a datblygu gwledig Cymru ymhellach o £37 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd am y tair blynedd nesaf yn torri eu haddewid i ffermwyr a chymunedau gwledig unwaith eto,” meddai Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts.

“Mae hyn yn golygu y bydd amaethyddiaeth Cymru tua £248 miliwn yn waeth erbyn 2025, bron yn gyfwerth â gwerth blwyddyn o daliadau uniongyrchol (Colofn 1), sy’n datgelu’r gwirionedd y tu ôl i’r addewidion a wnaed gan Brexiteers amlwg ac ym maniffesto 2019.”

Mae’r undeb hefyd yn nodi eu pryder ac effaith y toriadau ar “ffermydd teuluol, yr economi wledig a chyflogaeth wledig” yn ystod cyfnod o “ansicrwydd eithafol”.

Ychwanegodd Glyn Roberts y byddai Undeb Amaethwyr Cymru yn parhau i fonitro cyhoeddiadau pellach ar yr adolygiad gwariant.

Maen nhw’n bwriadu cydweithio â Llywodraeth Cymru ar sut y bydd y toriadau hyn yn dylanwadu ar ddyraniadau cyllid datganoledig cyn cyhoeddi’r gyllideb yn ddiweddarach eleni.