Mae ymgyrchwyr Insulate Britain wedi newid eu tactegau protest drwy gerdded tuag at draffig ar yr M25.

Dywedodd y grŵp bod y penderfyniad i roi’r gorau i eistedd yng nghanol ffyrdd i rwystro cerbydau wedi cael ei wneud yn dilyn “adborth” bod llawer o yrwyr yn rhwystredig yn sgil eu gweithredoedd.

Fore Gwener (29 Hydref), cerddodd ymgyrchwyr ar yr M25 ger Cyffordd 28 a 29 am gyfnod byr.

Ond fe wnaeth Heddlu Essex ymateb yn gyflym i’r digwyddiad ac fe gafodd yr ymgyrchwyr eu symud o’r ffordd.

Dywedodd llefarydd ar ran y grŵp fod diogelwch yn “hollbwysig” ac na fyddai’r protestiadau wedi mynd rhagddynt pe na bai ceir yn arafu’n ddigonol.

“Y bwriad yw cerdded i mewn i’r draffodd tuag at y traffig ar hyd y llinellau gwyn,” meddai.

“Os nad yw ceir yn arafu ac yn dal i deithio ar gyflymder llawn yna byddwn yn aros ar ochr y lôn yn gwisgo ein hi-vis gyda’r baneri.

“Bydden ni’n gobeithio y byddan nhw’n arafu beth bynnag.”

Mae Insulate Britain yn cydnabod ei bod yn torri gwaharddeb yr Uchel Lys sy’n ceisio atal ei gweithgareddau.

Gellid cyhuddo’r sawl sy’n torri’r gwaharddebau o ddirmyg llys, gan wynebu cosb uchaf o ddwy flynedd yn y carchar neu ddirwy.

Mae gweithredwyr bellach wedi rhwystro ffyrdd ar 17 diwrnod ers 13 Medi gan sbarduno rhwystredigaeth ymhlith modurwyr.