Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi beirniadu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw sy’n dweud y gallai pasys Covid cael eu hymestyn yn ehangach i’r diwydiant lletygarwch.
Daw hyn ar ôl rhybudd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y gallai rhai cyfyngiadau Covid a gafodd eu diddymu yn yr haf, gael eu hailgyflwyno oni bai bod achosion yn gostwng yn y tair wythnos nesaf. Roedd wedi awgrymu mewn cyfweliad â BBC Breakfast fod Llywodraeth Cymru yn ystyried y bydd lleoliadau lletygarwch fel tafarndai a bwytai hefyd yn wynebu defnyddio pasys Covid.
“Ein barn ni yw bod y system yn wrth-ryddfrydig ac yn anymarferol,” meddai Jane Dodds, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.
“Dim ond yr wythnos diwethaf y mae tystiolaeth a ddatgelwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Prydain yn parhau i ddangos y gallai’r cynllun fod yn wrthgynhyrchiol, gan wthio pobl o leoliadau mwy i leoliadau llai sydd wedi’u hawyru’n wael.”
Eisoes mae pasys Covid yn ofynnol ar gyfer clybiau nos a byddant yn eu hymestyn i theatrau, sinemâu a neuaddau cyngerdd ar 15 Tachwedd.
Fe ychwanegodd Jane Dodds: “Bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn parhau i wrthwynebu unrhyw ehangu ar gynllun pasys Covid yng Nghymru.
“Roedd y bleidlais flaenorol ar weithredu’r cynllun yn seiliedig ar eu defnydd cyfyngedig mewn safleoedd a lleoliadau penodol.”
Bydd pasys Covid yn cael eu hymestyn i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd o 15 Tachwedd fel rhan o’r cynlluniau.
Mae pas yn dangos os yw rhywun wedi cael eu brechu’n llawn neu a ydynt wedi cael prawf llif ochrol negyddol yn ystod y 48 awr ddiwethaf.
Bydd datganiad llawn gan Lywodraeth Cymru’n cael ei wneud am 12:15 heddiw (Hydref 29).