Richard Evans, Gohebydd Democratiaeth Leol

Mae Aelod Ceidwadol o’r Senedd yng nghanol ffrae ynghylch pa ddefnydd mae’n bwriadu ei wneud o ddata arolwg mae’n ei gynnal.

Mae Sam Rowlands, sy’n Aelod dros Ogledd Cymru, yn cynnal arolwg o farn etholwyr am y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, arolwg sy’n cael ei ariannu gan y cyhoedd.

Daw hyn ar ôl i neges ar waelod yr arolwg nodi na fyddai “gwybodaeth [yr ymgeisydd] yn cael ei rhannu gan unrhyw un y tu allan i’r Blaid Geidwadol.”

Ond o dan god ymddygiad Aelodau’r Senedd, does dim hawl gan aelodau ddefnyddio adnoddau comisiwn i gyfathrebu ag etholwyr at ddibenion eu plaid wleidyddol.

Roedd swyddfa’r Aelod yn cydnabod bod y datganiad ar ddiwedd yr arolwg yn gamgymeriad, a bod dim manylion na data personol yn cael ei rannu â’r blaid.

Camgymeriad

Gwadodd llefarydd ar ran ei swyddfa fod Sam Rowlands yn bwriadu rhannu’r data gyda’r Blaid Geidwadol.

“Mae Sam yn ansicr pam y cafodd y llinell – ‘Bydd gwybodaeth [yr ymgeisydd] ddim yn cael ei rannu gan unrhyw un y tu allan i’r Blaid Geidwadol’ – ei chynnwys yn yr arolwg, gan na chafodd ei chynnwys yn y cais a wnaethon ni i ddarparwr y wefan,” meddai’r llefarydd.

“Cafodd y mater hwn ei godi gyda darparwr y wefan. Er mwyn osgoi amheuaeth, does dim unrhyw fwriad i rannu unrhyw fanylion personol a gafodd ei gasglu gan yr arolwg gyda’r Blaid Geidwadol.”

‘Dylid gwirio pethau ddwywaith’

Mae Sam Rowlands hefyd yn aelod o Gyngor Conwy, ac yn gyn-arweinydd o’r awdurdod.

Roedd un cynghorydd anhysbys o’r sir honno yn anhapus gyda’r arolwg.

“Dydw i ddim yn credu ei bod hi’n deg o gwbl os yw’r Blaid Geidwadol yn defnyddio arian cyhoeddus – arian Senedd Cymru – i gyllido ymgyrch wleidyddol sydd â’r nod o geisio neu gasglu data gan etholwyr,” meddai.

“Mae’r Gwasanaeth Iechyd yn ased cyhoeddus pwysig iawn, a dylai’r Blaid Geidwadol fod yn casglu data y gallan nhw wedyn ei rannu gyda nhw ar gyfer darparu gwasanaethau gwell yng Ngogledd Cymru.

“Mae camgymeriadau yn digwydd, ond gyda rhywbeth mor bwysig â chasglu data, dylid gwirio pethau ddwywaith.

“Mae diogelu data yn rhywbeth pwysig iawn, a dylai’r camgymeriadau hyn ddim digwydd.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Senedd mai “aelodau yw rheolwyr y data, ac sydd â chyfrifoldeb drwyddi draw o’r defnydd o ddata ganddyn nhw neu eu staff.”