Mae’r Pab Francis wedi galw am “benderfyniadau radical” wrth i’r byd wynebu “un argyfwng ar ôl y lall” mewn gofal iechyd, yr amgylchedd, cyflenwadau bwyd a’r economi.
Dywedodd fod newid yn yr hinsawdd a’r pandemig wedi amlygu “bregusrwydd dwfn y byd, wedi codi nifer o amheuon a phryderon am ein systemau economaidd a’r ffordd rydym yn trefnu ein cymdeithasau”.
Mewn neges arbennig ar gyfer rhaglen Today ar BBC Radio 4, dywedodd y pab: “Rydym wedi colli ein hymdeimlad o ddiogelwch ac yn profi ymdeimlad o ddiffyg grym a cholli rheolaeth dros ein bywydau.”
Dywedodd bod yr argyfyngau yn “storm berffaith” ond hefyd yn cynnig cyfleoedd.
Ychwanegodd: “Mae’r argyfyngau hyn yn cyflwyno’r angen i ni wneud penderfyniadau, penderfyniadau radical nad ydynt bob amser yn hawdd.
“Ar yr un pryd, mae adegau o anhawster fel y rhain hefyd yn cynnig cyfleoedd.
“Cyfleoedd na ddylem eu gwastraffu.”
Dywedodd y Pab Francis fod yn rhaid i’r byd weithredu gyda’i gilydd, heb guddio y tu ôl i “ffiniau, rhwystrau na waliau gwleidyddol”.
Dywedodd Francis y gall pawb chwarae eu rhan wrth sicrhau newid wrth i’r byd wynebu newid yn yr hinsawdd.
“Rydym yn galw ar frys ar i arweinwyr gwleidyddol a fydd yn cwrdd yn Cop26 yn Glasgow gynnig ymatebion effeithiol i’r argyfwng ecolegol presennol a chynnig gobaith i genedlaethau’r dyfodol.
“Ac mae’n werth ailadrodd pob un ohonom, pwy bynnag a ble bynnag y byddwn, yn gallu chwarae ein rhan ein hunain wrth newid ein hymateb ar y cyd i fygythiad digynsail newid yn yr hinsawdd a diraddio ein cartref cyffredin.”