Yn dilyn cyfarfod Jeremy Hunt â Arwel Ellis Owen a John Walter Jones yn Llundain, mae Ifan Morgan Jones yn dweud nad torri cyllideb S4C yw’r ateb…
Mae pethau’n edrych yn reit ddu ar S4/C. Mae’r ‘slaes’ yn ei henw’n edrych yn fwy a mwy addas bob dydd, fel ryw ben sy’n paratoi am y gilotîn.
Roedd Prif Weithredwr y Sianel a Chadeirydd yr Awdurdod wedi mynd i Lundain dydd Mawrth gan obeithio dadlau y dylai S4C gael ei thrin fel y BBC a chael mwy o amser i baratoi ar gyfer toriadau ariannol.
Ond os oedden nhw’n disgwyl gwrandawiad cydymdeimladol gan yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, mae’n amlwg iddyn nhw gael eu siomi.
Mae S4C a’r Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon wedi gwrthod rhyddhau unrhyw sylw ynglŷn â chynnwys y cyfarfod ond mae’n debyg iddo fod yn un “anodd iawn”.
Yn ôl adroddiadau roedd Jeremy Hunt wedi rhoi “ffrae” i Arwel Ellis Owen a John Walter Jones, gan feirniadu S4C am beidio â chyrraedd cyfran ddigon eang o siaradwyr Cymraeg.
Mae’n debyg ei fod hefyd wedi dangos graff iddyn nhw gan nodi bod gwariant S4C wedi codi tra bod nifer y gwylwyr wedi gostwng.
Mae’r adran eisiau torri tua 25% o gyllideb £100m S4C dros y pedair blynedd nesaf – tua 6% bob blwyddyn. Mae’r sianel hefyd wedi cael mis i baratoi cynllun ariannol ar gyfer y dyfodol.
Dadrithiad
Serch hynny digon dof yw’r ymateb wedi bod o gyfeiriad Cymru fach, a dwi’n siŵr y bydd hynny’n gwneud swyddogaeth y rhai fydd yn gorfod torri yn haws.
Mae Cymdeithas yn Iaith wedi gwneud beth sydd rhaid ac ailddechrau’r “gweithredu uniongyrchol di-drais” oedd yn nodwedd o’r ymgyrch i sefydlu’r sianel yn 1982.
Ond fel arall codi’r ysgwyddau y mae’r rhan fwyaf o’r Cymry Cymraeg wedi ei wneud. Mae’n saff dweud fod yna dalp mawr ohonyn nhw wedi eu dadrithio braidd gan S4C.
Dyw’r ffordd y deliodd y Sianel ag ymadawiad y cyn Brif Weithredwr Iona Jones ddim wedi helpu yn hynny o beth.
Does dim dadl nad yw penderfyniad S4C i wrthod trafod ei hymadawiad wedi bod yn gamgymeriad.
Beth bynnag ddigwyddodd yn y cyfarfod yna allai hi ddim bod yn waeth na’r cyhoeddusrwydd negyddol cyson sydd wedi dilyn yn sgil eu penderfyniad i beidio â thrafod y mater.
Mae anniddigrwydd hefyd ynglŷn â’r ffordd y mae’r gwaith o gynhyrchu rhaglenni yn cael ei rannu ymysg pwll bychan o gwmnïau, a theimlir y gallen nhw fod wedi gwneud mwy i gefnogi cwmniau fel Barcud yng Nghaernarfon.
Yn waeth byth, mae yna yna ryw fath o gonsensws yn dechrau ffurfio y gallai’r toriadau wneud lles i S4C. Yn ôl blogwyr fel Chris Cope, “mae S4C angen argyfwng. Mae hi angen rhywbeth sy’n torri’r sianel i’w chraidd. Yn sgil hynny, efallai bod 24 y cant mewn toriadau’n union beth mae’n ei hangen.”
Cyllideb
Yn bersonol alla’i ddim cwyno am S4C. Mae eu gwasanaeth i blant bach, Cyw, yn boblogaidd tu hwnt yn ein tŷ ni. Byddwn i’n fodlon talu ffi trwydded bersonol am y gwasanaeth hwnnw’n unig.
Rydw i hefyd yn credu eu bod nhw’n dda iawn am wneud rhaglenni am ddigwyddiadau yng Nghymru (fel y gyfres Digwyddiadau ’10 yr haf yma) a rhaglenni sy’n ymweld ag ardaloedd penodol fel Bro.
Serch hynny, mae yna ganfyddiad nad yw safon rhaglenni S4C gystal a’r arlwy Saesneg ar sianeli eraill.
Ond ai torri cyllid yw’r ateb i hynny? Wel, na, dwi’m yn meddwl. Pa mor ddymunol bynnag fyddai hi i roi ‘cic yn nhin’ S4C, dyw’r ddadl ddim yn gwneud synnwyr rhesymegol.
Os mai codi braw ar S4C oedd ei angen – mae’n ymddangos bod Jeremy Hunt wedi llwyddo yn hynny o beth, beth bynnag.
Diffyg cyllideb yw un o broblemau S4C yn y bôn. Dyw £100 miliwn ddim yn llawer o arian yn y pen draw, ac fel popeth arall mae’n cystadlu gyda gwasanaeth Saesneg y BBC sydd yn cael £2.4 biliwn drwy’r ffi drwydded.
Gydag arian fel yna gall y BBC osod y bar yn rhyfeddol yn uchel, a’r unig ddarlledwr arall ym Mhrydain sy’n gallu cystadlu yw Sky, sydd â’i ffi tanysgrifio ei hun er mwyn gwneud hynny.
Un gŵyn parhaol gan bobol sy’n teithio dramor yw pa mor wael ydi safon y teledu yno. Pe baen ni’n cymharu arlwy S4C gydag arlwy sianeli nifer o wledydd fe fyddai’n eithaf ffafriol.
Y brif broblem felly yw nad oes gan S4C gymaint â hynny o arian i gynhyrchu rhaglenni o safon, ac mae yna beryg wrth gwtogi’r cyllid ymhellach y byddai’r safon yn gwaethygu eto, a hynny’n peri cwymp eto yn nifer y gwylwyr.
Diffyg creadigrwydd
Serch hynny, mae yna ffyrdd o wella safon rhaglenni S4C, a hynny drwy gywiro’r diffyg creadigrwydd sydd wrth galon y sianel.
Mae’r teclyn ‘Creu Syniadau’ yma yn dweud y cyfan – fe allech chi weld bob un yn cael ei gomisiynu.
Y broblem dwi’n credu yw bod S4C yn ormod o ‘siop gaeedig’. Tra bod yna fwrlwm celfyddydol ymysg nofelwyr, beirdd ac artistiaid Cymru, dyw’r bwrlwm hwnnw ddim bob tro i weld yn trosglwyddo i’n prif sianel ni.
Rydan ni’n wlad hynod o greadigol ond dyw’r brif sianel ddim fel petai o’n gallu costrelu’r creadigrwydd hwnnw at ei dibenion ei hun.
Ond nid torri’r gyllideb yw’r ateb i hynny. Byddai torri’r gyllideb yn gwneud creu rhaglenni creadigol, o safon, yn anoddach – nid yn haws.
A wedyn yr oll fyddai gyda ni fyddai mwy o raglenni ailadroddus, mwy o’r un hen syniadau a’r un wynebau. A sianel sydd ddim yn gwneud cyfiawnder â’i phriod iaith.