Mae arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, wedi mynd beth o’r ffordd at sicrhau cefnogaeth aelodau llawr gwlad i adeiladu gorsaf niwclear Wylfa B ar Ynys Môn.
Roedd wedi annog cynhadledd y Blaid i gefnu ar ei “gwrthwynebiad llwyr” i adeiladu unrhyw bwerdai niwclear newydd ac fe basiwyd cynnig i weithio i gael budd economaidd o’r datblygiad os bydd Llywodraeth Prydain yn penderfynu o’i blaid.
Mae unig bwerdy niwclear Cymru, Wylfa, yn etholaeth Ynys Môn.sedd Ieuan Wyn Jones. Roedd y llywodraeth Lafur flaenorol yn San Steffan wedi ei restru yn safle posib ar gyfer pwerdy niwclear newydd.
Manteisio
Er bod Plaid Cymru yn dweud ei bod hi’n gwrthwynebu pwerdai niwclear, pleidleisiodd y gynhadledd o blaid manteisio ar y lles economaidd lleol a allai ddod o Wylfa B.
Er nad oedd hynny’n golygu cefnogi’r cynllun ymlaen llaw, roedd rhai o’r siaradwyr wedi rhybuddio y byddai pasio’r cynnig yn gwneud neges y Blaid yn ddryslyd.
Roedd Ieuan Wyn Jones ymysg rhai o ffigyrau amlycaf y blaid a oedd yn dadlau tros gefnogi Wylfa B o lwyfan y gynhadledd.
Dywedodd ei fod yn torri’r rheol na ddylai arweinwyr pleidiau gymryd rhan mewn dadleuon o’r fath oherwydd bod y mater yn un mor bwysig i’w etholaeth.
Gwaith
“Rydw i’n ymwybodol bod hon yn fater anodd i nifer o bobol,” meddai. “Rydw i’n ymwybodol fod yna deimladau cryf yma ynglŷn â phŵer niwclear.
“Pe bai’r penderfyniad yn cael ei wneud i adeiladu Wylfa B – ac nid ein penderfyniad ni fyddai fo – mae’n bwysig ein bod ni’n sicrhau bod pobol leol a chontractwyr lleol yn cael gwaith,” meddai.
Ychwanegodd bod ei etholwyr yn poeni a fydd eu plant nhw yn gallu dod o hyd i waith ar yr ynys. “A ddylwn i ddweud, ‘Na, dydw i ddim yn credu y dylai eich plant chi gael gweithio yn Wylfa’?” meddai.
Wigley ac Alun Ffred o blaid hefyd
Penderfynodd cyn arlywydd y blaid Dafydd Wigley hefyd gefnogi’r newid gan ddweud y byddai’n “rhoi gobaith i bobol ifanc gogledd-orllewin Cymru”.
Dywedodd Aelod Cynulliad Arfon, Alun Ffred Jones, y byddai coleg addysg bellach Coleg Menai yn hyfforddi pobol i weithio yn Wylfa.
“Ydych chi o ddifri yn dweud y dylwn i sefyll yn Arfon gan ddweud na ddylai Coleg Menai baratoi cyrsiau ar gyfer y bobol yma?” meddai.
‘Cymysglyd’
Ond dywedodd cyn gadeirydd y blaid, John Dixon, bod neges Plaid Cymru ar bŵer niwclear wedi mynd yn “gymysglyd”.
Ychwanegodd Janet Davies, cyn AC Plaid Cymru, bod Plaid Cymru wedi gwrthwynebu pŵer niwclear am 40 mlynedd.
“Dylen ni ddim dadwneud hynny drwy gytuno i’r newid yma,” meddai hi.