Mae gwylwyr y glannau wedi achub dyn 81 oed ar ôl iddo fynd i’r môr mewn dingi er mwyn ceisio achub bin olwynion.

Roedd y pensiynwr, sy’n byw ar Draeth Coch rhwng Pentraeth and Benllech, wedi gweld bin olwynion ei gymydog yn disgyn i mewn i’r môr wrth i donnau uchel a gwynt cryfion daro’r arfordir.

Neidiodd i mewn i’r dingi rwber a hwylio allan i’r môr, gan gysylltu’r bin i’r cwch gyda rhaff.

Ond yna cydiodd gwyntoedd cryfion yn y dingi a’i chwythu milltir i ffwrdd o’r lan cyn i wylwyr y glannau gael eu galw toc wedi 12.30am dydd Gwener.

Llwyddodd y criw bad achub o Foelfre i gludo’r pensiynwr – a’r bin olwynion – yn ôl i’r lan.

Pan gafodd o’i achub roedd o’n dioddef o hypothermia ac fe gafodd ei drin mewn ambiwlans ar y lan. Doedd o ddim yn gwisgo siaced bywyd na chwaith dillad dal dŵr.

Roedd y dingi hefyd wedi dechrau llenwi gyda dŵr. Llwyddodd y vriw bad achub i ddod a’r bin olwynion yn ôl i’r lan gyda’r holl sbwriel dal ynddo.

“Mae criw bad achub gwirfoddol Moelfre wedi delio ag amrywiaeth eang o alwadau brys dros y blynyddoedd ond rydw i’n siŵr mai dyma’r tro cyntaf i ni orfod achub bin olwynion,” meddai llefarydd.