Mae Cymraes sydd wedi bod yn byw yn yr Unol Daleithiau ers pymtheg mlynedd wedi dweud y bydd y rhan fwyaf o’r wlad yn canolbwyntio ar geisio cofio dioddefwyr 9/11 heddiw.

Daw’r seremoni eleni ynghanol sawl ffrae wleidyddol ynglŷn ag adeilad mosg gerllaw ‘Ground Zero’ a hefyd cynllun gweinidog i losgi copïau o’r Coran.

Mae’r Unol Daleithiau yn paratoi ar gyfer etholiadau Seneddol ar 2 Tachwedd ac mae gwleidyddion amlwg fel yr Arlywydd Barack Obama a’r Gweriniaethwr Sarah Palin eisoes wedi ymyrryd i roi eu barn.

Ond dywedodd Gwennan Turner, sydd bellach yn byw yn Las Vegas, wrth Golwg 360 bod y “cyfryngau a’r rhan fwyaf o Americanwyr” yn credu mai “stynt cyhoeddusrwydd” yw’r cynllun i losgi’r Coran.

Mae’r Gweinidog Terry Jones, 58, o Florida bellach wedi rhoi’r gorau i’w syniad ar yr amod nad oes mosg yn cael ei adeiladu yn agos at ‘Ground Zero’ ymosodiad 9/11.

Er ei fod o’n cael ei gyfeirio ato fel ‘mosg Ground Zero’ mewn gwirionedd mae’r adeilad arfaethedig ychydig flociau i ffwrdd.

Serch hynny mae disgwyl i filoedd o brotestwyr ymgynyll ar ol y seremoni er mwyn cofio bron i 3,000 o bobol a fu farw o ganlyniad i’r ymosodiad terfysgol naw mlynedd yn ôl.

Dywedodd un dyn, Jim Riches, y byddai’n mynd i Ground Zero er mwyn cofio ei fab oedd yn ddyn tân, Jimmy Riches, ac yna yn protestio yn erbyn y mosg.

“Dydi fy mab i ddim yn gallu siarad drosto’i hun rhagor. Mae o wedi ei lofruddio gan Fwslemiaid,” meddai.

“Rydw i am leisio fy marn ynglŷn â lleoliad y mosg yma. Mae gen i’r hawl i fod yno.”

‘Unigolyn eithafol’

“Dw i ddim wedi clywed am neb yn cefnogi nag yn cydymdeimlo â Jones,” meddai Gwennan Turner, ond cyfaddefodd ei fod o wedi “llwyddo” i dynnu sylw at ei hun a’i achos.

“Mae’r gymdeithas ar y cyfan yn drist fod unigolyn eithafol a ffôl wedi cael llwyfan byd eang i gyhoeddi ei syniadau ac o ganlyniad wedi llwyddo i gam-gynrychioli America a Christnogaeth,” meddai Gwennan Jones, sy’n Gristion.

Dywedodd y gallai cynllun Terry Jones “ennyn ymateb negyddol tuag at America ond yn fwy difrifol na hynny fe allai arwain at ddial a cholli gwaed”.

“Mae’n warth fod Jones yn credu fod ei syniadau ef yn fwy gwerthfawr na bywydau ei gyd-Americanwyr.

“Ein gobaith ar Fedi 11 yw cofio am y rheini fu farw naw mlynedd yn ôl a’r milwyr sydd wedi rhoi eu bywydau ers hynny er mwyn diogelu Unol Daleithiau America.”