Bydd arweinydd seneddol Plaid Cymru yn cyhuddo’r Blaid Lafur o “ragrith” am beidio â newid y ffordd yr oedd Cymru’n cael ei hariannu tra’r oedden nhw mewn pŵer yn San Steffan.
Mewn araith yng nghynhadledd y blaid yn Aberystwyth heddiw fe fydd Elfyn Llwyd yn dweud nad oedd gan y Blaid Lafur yr “asgwrn cefn” i ail-ddiwygio fformiwla Barnett cyn yr Etholiad Cyffredinol.
Mae Plaid Cymru yn honni nad yw’r fformiwla sy’n cael ei ddefnyddio gan y Trysorlys er mwyn gosod maint cyllideb Llywodraeth y Cynulliad, yn rhoi siâr deg o’r arian i Gymru.
Dywedodd Comisiwn Holtham y llynedd y gallai’r fformiwla gostio £8.5 biliwn i Gymru dros gyfnod o ddegawd.
Mae gweinidogion Llafur a Phlaid Cymru yng Nghaerdydd bellach wedi dweud bod y comisiwn wedi profi’r angen ar gyfer “sustem ariannu decach”.
“Pan oedden nhw mewn llywodraeth roedd y Blaid Lafur wedi wfftio unrhyw awgrym nad oedd Fformiwla Barnett yn deg i Gymru,” meddai.
“Erbyn hyn maen nhw’n cytuno â Phlaid Cymru.
“Mae’n biti nad oedd ganddyn nhw’n asgwrn cefn a’r parch tuag at bobol Cymru i wneud rhywbeth am y peth pan oedden nhw mewn llywodraeth am 13 mlynedd.”
Tra bod y Blaid Lafur yn “dwyn ein polisïau, bydd pobol Cymru yn cofio na wnaeth y Blaid Lafur eu gorau drostyn nhw”.
‘Her anferth’
Yn y cyfamser fe fydd fe fydd y dirprwy weinidog tai Cymru yn dweud bod Plaid Cymru wedi ennill parch yr etholwyr ers clymbleidio gyda’r Blaid Lafur yn y Cynulliad yn 2007.
Fe fydd Jocelyn Davies yn dweud bod rhad i’r blaid ddangos nad oedden nhw eisiau pŵer er mwyn “gweinyddu” yn unig ond er mwyn “gwella bywydau pobol Cymru”.
Dywedodd mai tasg nesaf Plaid Cymru oedd amddiffyn y wlad rhag toriadau ariannol yn y sector gyhoeddus. Mae disgwyl i faint y toriadau gael eu datgelu dros y misoedd nesaf.
“Y dasg nesaf sy’n ein hwynebu ni yw her anferth amddiffyn y wlad rhag toriadau yn y sector gyhoeddus,” meddai Jocelyn Davies.
“Dros y 90 mlynedd diwethaf mae Plaid Cymru wedi codi ei gêm er mwyn wynebu bob her, ac mae pobol Cymru yn gwybod ein bod ni yma i’w rhoi nhw yn gyntaf.
“Mae llywodraeth nesaf Cymru angen Plaid Cymru.”