Eisteddfod Gadeiriol Tregaron
Ar nos Wener 10fed o Fedi, yn y Neuadd Goffa, cynhaliwyd cystadlaethau lleol yr Eisteddfod. Y beirniad oedd Dafydd Jones, Tyngraig (cerdd) a Catrin Mai Davies, Tal-y-bont (adrodd a llenyddiaeth). Croesawyd y ddau i’r eisteddfod gan gadeirydd y pwyllgor Glyn Lewis.
Roedd yn hyfryd croesawi nôl dau wyneb cyfarwydd gan i’r ddau fwrw eu prentisiaeth fel perfformwyr ar y llwyfan yma.
Gan fod y cystadlu cyfyngedig i blant Ysgol Gynradd Tregaron, roeddem yn ddyledus iawn i John Jones, y prifathro, a’u gyd-athrawon am eu gwaith o ddysgu a hyfforddi’r plant mor drwyadl. Roedd yn hyfryd gweld cynifer o rieni a ffrindiau yn cefnogi’r plant y noson honno. Cyfeiliwyd gan Carys Ann Davies, ac addurnwyd y llwyfan gan Jane Hughes. Mae’n sicr fydd y profiad o’r llwyfan yn profi’n werthfawr i’r plant yn y dyfodol. Cyflwynwyd y gwobrau gan Myfanwy Bulman Rees, Brenhines Carnifal Tregaron.
Y diwrnod canlynol, cynhaliwyd y cystadlaethau agored. Roeddem yn ffodus iawn i gael dau feirniad profiadol iawn yn ei meysydd, sef Buddug Verona James, Aberteifi a’r Parchedig John Gwilym Jones, Peniel. Y cyfeilyddion oedd Endaf Morgan a Gareth Wyn Thomas.
Llywydd y dydd oedd Eleri Davies, Aberdauddwr, Llanddewibrefi, oedd yn wreiddiol o fferm Penybont, Tregaron. Cafwyd araith ddiddorol a pherthnasol ganddi, ynghyd a’i atgofion pan fu hithau’n troedio a chystadlu yn yr eisteddfodau. Diolchodd y cadeirydd iddi am ei chefnogaeth flynyddol i’r eisteddfod.
O dan ofal Eirwen James, cynhaliwyd seremoni cadeirio urddasol iawn. Roedd y beirniad, Parch John Gwilym Jones, yn hynod o bles gyda’r safon uchel a dderbyniwyd yn yr un ar bymtheg o gerddi a ddaeth gerbron y gystadleuaeth yma. Ar ganiad y corn gwlad, a seiniwyd gan John Jenkins, Ysgol Uwchradd Tregaron, cododd ‘Arwyn’ ar ei draed, i gymeradwyaeth y gynulleidfa. Fe’i cyrchwyd i’r llwyfan gan Catrin Medi Pugh ac Owain Pugh. Datgelwyd mai ‘Arwyn’ oedd Anwen Pierce, Bow Street, ac roedd y beirniad yn llawn canmoliaeth i’r cerddi buddugol.
Fe’i cyfarchwyd ar lafar gan dri o ddisgyblion Ysgol Uwchradd Tregaron, sef Meirian Morgan, Eilir Pryse a Lewis Evans. Eilir Pryse hefyd canodd cân y cadeirio.
Yn ymuno gydag aelodau pwyllgor yr Eisteddfod ar y llwyfan yn ystod y seremoni oedd y Cynghorydd Mrs Haydn Lewis, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion a’r Cynghorydd Evan Jones, Cadeirydd Cyngor Tref Tregaron. Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Elin Jones A.C. a Mark Williams A.S.
Diolch i bawb a gyfrannodd at eisteddfod lwyddiannus eleni eto.
Dyma restr o fuddugwyr eisteddfod 2010!
Cystadlaethau cyfyngedig i blant Ysgol Gynradd Tregaron
Cystadleuaeth | 1af | 2il | 3ydd |
Unawd dosbarth derbyn a meithrin | Zara Evans | Hazel Pitts | Wil Hockenhull |
Adnodd dosbarth derbyn a meithrin | Zara Evans | Catrin Lloyd | Wil Hockenhull a Gwenno Dark (cydradd) |
Unawd blwyddyn1 a 2 | Erin Jones | Gracie George | Sioned Bulman |
Adnodd blwyddyn 1 a 2 | Jac Hockenhull | Erin Jones | |
Unawd blwyddyn 3 a 4 | Elain Jones | Hana Wilson | Tomos Jones a Ceri Pateman (cydradd) |
Adrodd blwyddyn 3 a 4 | Hana Wilson | Tomos Jones | Ceri Pitman a Siwan Richards (cydradd) |
Unawd blwyddyn 5 a 6 | Hana James | Catrin Davies | Iestyn Richards |
Adrodd blwyddyn 5 a 6 | Hana James | Catrin Davies | |
I ddisgyblion dan naw oed: Ysgrif ‘Yr Oedfa’ | Tomos Jones | Ceri Pateman ac Angharad Evans (cydradd) | Elain Jones a Siwan Richards (cydradd) |
Cyflwynwyd cwpan her barhaol Cyril Evans am yr unawdydd fwyaf addawol i Catrin Davies.
Cyflwynwyd cwpan her parhaol Mair Lloyd-Davies am yr adroddwr fwyaf addawol i Hana Wilson.
Cystadlaethau agored
Cystadleuaeth | 1af | 2il | 3ydd |
Unawd dan 6 oed | Glesni Morris, Llanddeiniol | Zara Evans, Tregaron | Miriam Davies, Tal-y-Bont |
Adrodd dan 6 oed | Glesni Morris, Llanddeiniol | Zara Evans,Tregaron | Miriam Davies,Tal- y- Bont |
Unawd 6-9 oed | Siwan Aur Jones, Lledrod | Nia Beca Jones, Llanwnnen | Enfys Lynwen Morris, Llanddeiniol |
Adrodd 6-9 oed | Elan Evans, Felinfach | Enfys Lynwen Morris,Llanddeiniol | Sara Elan Jones,Cwmann |
Unawd 9-12 oed | Anest Eurig, Aberystwyth | Ffion Williams,Lledrod | |
Adrodd 9-12 oed | Nest Jenkins,Lledrod | Anest Eurig, Aberystwyth | Ffion Williams,Lledrod |
Unawd 12-15 oed | Rhys Philips, Hwlffordd | Catrin Mai,Lledrod | |
Adrodd 12-15 oed | Catrin Mai,Lledrod | ||
Unawd 15-18 oed | Elgan Evans, Tregaron | Ellen Thomas, Eisteddfa Gurig | Ceris James,Castell Newydd Emlyn |
Adrodd 15-18 oed | Eilir Pryse,Aberystwyth | ||
Unawd cerdd dant dan 18 oed | Annest Eurig, Aberystwyth | Gwawr Hatcher, Gorsgoch | Nest Jenkins,Lledrod |
Unawd unrhyw offeryn cerdd dan 18 oed | Nest Jenkins, Lledrod a Huw Evans, Llanddeiniol (cydradd) | Meleri Pryse, Aberystwyth | |
Canu emyn dan 18 oed-Cwpan Her Barhaol
Glenys Slaymaker |
Elgan Evans,Tregaron | Gwawr Hatcher,Gorscoch | Eilir Pryse,Aberystwyth |
Cân bop neu gân o sioe gerdd | Caryl Haf Davies,Llanddewi Brefi | Ellen Thomas, Eisteddfa Gurig | Ceris James, Bryngwyn |
Adrodd digri agored | Sam Jones,Tregaron | Rhodri Pugh,Llangybi | Mair Jones, Tregaron ac Eilir Price, Aberystwyth (cydradd) |
Canu emyndros 60 oed-Cwpan Her Barhaol
Banc Barclays, Tregaron |
Elen Davies,Llanfair Caereinion | Vernon Matter, Saron | Gwynfor Harries, Blaenannerch |
Cystadleuaeth Monolog | Catrin Medi Pugh, Tregaron | Eilir Pryse, Aberystwyth | |
Ymgom agored | Sam ac Ifan Jones, Tregaron | ||
Her adroddiad 18-30 oed | Carwyn Evans, Llanddeiniol | Sam Jones, Tregaron | |
Her unawd 18-30 oed | Rhodri Evans, Bow Street | Caryl Haf Davies,Llanddewibrefi | |
Darllen darn o’r ysgrythur o’r Beibl Newydd i’w osod ar y pryd | Eilir Price, Aberystwyth | Carwyn Evans, Llanddeiniol | |
Canu emyn 18-60 oed-Cwpan Her Barhaol John Davies, Llwyngaru, Tregaron | Rhodri Evans, Bow Street | Caryl Haf Davies, Llanddewibrefi | |
Her Unawd Agored: Cwpan Her Barhaol Teulu Brynteifi Pont Llanio | Gwyn Morris,Aberteifi | Efan Williams, Lledrod | Robert Jenkins, Aberteifi |
Her Adroddiad Agored:Cwpan Her BarhaolCassie Davies | Joy Parry, Cwmgwili | Catrin Medi Pugh,Tregaron | Gwladys Davies,Garnant |
Cenwch i’m yr hen ganiadau:Cwpan Her Barhaol Muriel Lloyd | Robert Jenkins, Aberteifi | Jennifer Parry,Aberhonddu | Efan Williams, Lledrod |
Llenyddiaeth
Cystadleuaeth | 1af | 2il | 3ydd |
Cystadleuaeth y Gadair | Anwen Pierce, Bow Street, Aberystwyth | ||
Englyn- ‘Trydan’ | D Emrys Williams, Llangernyw, Abergele | J.B. Phillips, Caerfyrddin | |
Dau bennill yn hysbysebu Cymanfa Ganu ac Eisteddfod | D Emrys Williams, Llangernyw, Abergele | Mary B. Morgan, Llanrhystud | |
Ysgrif- ‘Pori’ | John Meurig Edwards, Aberhonddu | Carys Briddon, Tre’r Ddôl, Machynlleth | |
Soned- ‘Y Gors’ | John Meurig Edwards, Aberhonddu | ||
Sgwrs fer rhwng athro ysgol a rhiant | John Meurig Edwards, Aberhonddu | ||
Brawddeg: ‘Ystrad Caron’ | Eluned Davies, Penygroes, Crymych | Mary B. Morgan, Llanrhystud aEluned Edwards,Yr Wyddgrug
(cydradd) |
|
Limrig | B. Phillips, Ffostrasol a T.G. Jones, Penuwch a John Meurig Edwards, Aberhonddu (cydradd 1af) | ||
Deg rheol aur i feirniad mewn eisteddfod | John Meurig Edwards, Aberhonddu aT.G Jones, Penuwch, (cydradd 1af) | ||
Cyfansoddi geiriau ar gyfer hwiangerdd | Valmai Williams, Aberdesach, Caernarfon | Dilys Backer Jones, Bow Street. |