Jeremy Hunt
Fe ddaeth cyfarfod uchel swyddogion S4C a’r Ysgrifennydd Diwylliant i ben heb unrhyw ddatganiad am yr hyn a drafodwyd.
Yn ôl y sianel, roedd yn gyfarfod preifat rhwng ei Phrif Weithredwr dros dro, Arwel Ellis Owen, Cadeirydd Awdurdod S4C, John Walter Jones, a Jeremy Hunt.
Doedden nhw ddim yn fodlon rhoi unrhyw sylw ar gynnwys y cyfarfod ac yn dweud na fyddai cyhoeddiad am arian y sianel tan yr hydref.
Ond mae’n amlwg ei bod hi’n ymdrech funud ola’ i geisio rhwystro’r Adran rhag cyflawni’r hyn sy’n cael ei broffwydo – toriadau o hyd at 24% yng nghyllid y sianel o fewn pedair blynedd.
Crynhoi cefnogaeth
Ers helyntion diwedd Gorffennaf, pan gafodd Prif Weithredwr S4C ei diswyddo, mae penaethiaid y sianel wedi bod yn ceisio crynhoi cefnogaeth iddi, gan bwysleisio ei chyfraniad at yr economi a’r iaith Gymraeg, yn ogystal â’r rhaglenni ei hun.
Mae Golwg 360 yn deall hefyd mai un o brif ddadleuon y ddau o S4C fyddai’r angen i gael chwarae teg o’i gymharu â’r BBC – mae arian y Gorfforaeth yn gymharol saff nes y bydd y drwydded deledu’n cael ei hail ystyried o fewn dwy flynedd.
Dadl S4C yw ei bod yn anodd iawn i dorri ar arian ym maes darlledu, lle mae rhaglenni’n cael eu comisiynu fisoedd a blynyddoedd ymlaen llaw.