Clywodd sesiwn o’r Pwyllgor Materion Cymreig heddiw (23 Medi) bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn cynnal trafodaethau “cychwynnol” gyda grwpiau ynghylch gorsaf bŵer niwclear newydd ar Ynys Môn.

Nod y sesiwn oedd edrych ar y tebygolrwydd y bydd datblygwr newydd yn darparu gorsaf bŵer niwclear ar safle Wylfa Newydd.

Gwnaeth gwmni Horizon gefnu ar gynllun i ddatblygu Wylfa Newydd oherwydd diffyg cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Daeth hynny yn dilyn penderfyniad gan gwmni Hitachi, sy’n berchen Horizon, i dynnu allan o drafodaethau ar gynlluniau gwerth £20 biliwn gyda sôn am 9,000 o swyddi.

Gyda phedwar panel o arbenigwyr o’r diwydiant, gan gynnwys prif weithredwr y Gymdeithas Diwydiant Niwclear, a phrif weithredwr y Labordy Niwclear Cenedlaethol, bu’r Pwyllgor yn ystyried cyflwr y sector niwclear.

Yn ogystal, gwnaethant glywed gan arbenigwyr polisi arweiniol yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol fod niwclear yn cyd-fynd ag agenda gwyrdd Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae’r mudiad gwrth-niwlcear PAWB (Pobol Atal Wylfa B), eisioes wedi ymateb i’r sesiwn gan ddweud ei bod yn “annerbyniol fod bore cyfan yn cael ei neilltuo i wrando ar un ochr o’r ddadl”

Y pwyllgor

Yn ystod y cyfarfod untro o’r Pwyllgor Materion Cymreig, bu Declan Burke, cyfarwyddwr prosiectau a datblygiadau niwclear gydag Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn rhoi tystiolaeth.

Fe wnaeth Mr Burke ddweud bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda chwmnïau eraill sy’n cynnig datblygu gorsaf niwclear ym Môn.

Dywedodd fod trafodaethau “cychwynnol” yn cael eu cynnal gyda chwmnïau “sydd wedi gwneud cynigion i ddatblygu’r safle”, a bod angen cynnal y trafodaethau hyn er mwyn “deall y cynigion yn well”.

Yn rhoi tystiolaeth lafar i’r pwyllgor hefyd, roedd consortiwm o’r Unol Daleithiau a oedd yn cynnwys cwmni peirianneg Bechtel, sy’n cynnig adeiladu gorsaf bŵer gan ddefnyddio’r dechnoleg Westinghouse AP1000, sydd wedi’i ddisgrifio fel y mwyaf diogel posibl.

Clywodd y Pwyllgor hefyd gan gwmni o Brydain, Shearwater Energy, sydd â chynlluniau ar gyfer creu adweithyddion niwclear a ffermydd gwynt.

‘Safle gorau’

Wrth ymateb i gwestiynau fe ddywedodd Barbara Rusinko o gwmni Bechtel mai’r safle ar Ynys Môn yw’r “safle gorau yn y DU i adeiladu gorsaf bŵer niwclear” ar raddfa mor eang.

Fe alwodd hi ar y Canghellor Rishi Sunak i ymrwymo i’r prosiect yn ei adolygiad gwariant am y tair blynedd nesaf.

Mae disgwyl i adolygiad gwariant y Canghellor gael ei gyhoeddi fis nesaf.

Dywedodd Simon Forster o gwmni Shearwater fod ei gwmni ef yn gallu cynnig cynllun rhatach na’r lleill.

Ychwanegodd Mr Forster bod angen i Hitachi, sy’n berchen ar y safle, a Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gyd-drafod a gwneud penderfyniad ar ddyfodol y diwydiant ynni ar Ynys Môn.

Gwrthwynebiad

Dywedodd y mudiad gwrth-niwlcear PAWB y byddai’n well rhoi blaenoriaeth “i dechnolegau amrywiol ynni adnewyddadwy ac anghofio am ynni niwclear sy’n fudr a pheryglus”.

“Y gwirionedd yw mai diwydiant mewn cyflwr o ddirywiad hirdymor yw’r diwydiant niwclear, a mwy priodol o lawer fyddai i Lywodraethau San Steffan a Chaerdydd roi pob blaenoriaeth i dechnolegau amrywiol ynni adnewyddadwy ac anghofio am ynni niwclear sy’n fudr, peryglus, eithafol o ddrud ac yn fygythiad i’r amgylchedd ac i iechyd dynol,” meddai PAWB mewn datganiad.

Mae PAWB yn pwyso ar y Pwyllgor Materion Cymreig i drefnu sesiwn i wrando ar safbwyntiau gwrth-niwclear hefyd.

Llun gwneud o sut y bydd yr atomfa newydd yn edrych

Aelodau Seneddol am glywed y diweddaraf ynghylch Wylfa Newydd

Yn ôl mudiad gwrth-niwlcear PAWB, mae’n “annerbyniol fod bore cyfan yn cael ei neilltuo i wrando ar un ochr o’r ddadl”