Mae Comisiwn Ffiniau Cymru wedi cyhoeddi map o’r etholaethau newydd yng Nghymru, ac mae dau o aelodau seneddol Plaid Cymru sy’n cael eu heffeithio wedi bod yn trafod effaith y newidiadau â golwg360.
Ymhlith y newidiadau mae etholaeth Ceredigion am uno ag etholaeth bresennol Preseli Penfro i greu’r etholaeth newydd Ceredigion Preseli.
Yn ôl Ben Lake, Aelod Seneddol Ceredigion, mae’n ffyddiog y gall Plaid Cymru dal ei gafael ar yr etholaeth mewn etholiad cyffredinol.
Byddai hyn yn golygu bod Stephen Crabb, Aelod Seneddol Ceidwadol presennol Preseli Penfro, yn colli ei etholaeth yntau.
“Fe allai e wedi bod yn llawer gwaeth i ni [fel plaid],” meddai Ben Lake wrth Golwg360 wrth weld y newidiadau a gafodd eu cyhoeddi ddoe (dydd Mercher, Medi 8).
“Ond rhaid cofio, ni all yr un aelod seneddol gymryd ei sefyllfa’n ganiataol.
“Roedd hi’n anochel y byddai’n rhaid i Geredigion etifeddu rhannau o etholaethau eraill, ac o fy safbwynt i ac rwy’n eithaf hyderus y byddwn ni’n gallu cystadlu ac ennill.
“Wrth gwrs, rhaid cofio mai dyma’r cynnig cyntaf gan y Comisiwn Ffiniau ac mae’n bosib y bydd yna newid wrth i’r broses ymgynghori fynd yn ei blaen, ond ar hyn o bryd pe byddai ffiniau presennol yn cael eu rhoi ar waith, fe fydd y sedd yn debyg iawn i’r hen sedd Ceredigion a Gogledd Sir Benfro.
“Rhaid cofio i Cynog Dafis ennill y sedd honna dros Blaid Cymru 1992 a dw i’n credu y byddwn ni mewn sefyllfa dda iawn i gipio’r sedd honna yn enw’r Blaid.
“Gan gofio bod sefyllfa go-lew gyda ni [Plaid Cymru] yng Ngheredigion a’r ardal yng Ngogledd Sir Benfro yn gwneud yn dda gyda’r Blaid ar y cynghorau sir ar lefel lleol.
“Rhaid cofio hefyd bod 56,000 o etholwyr o Geredigion a dim ond 20,000 yn ychwanegol sydd yn dod o’r Sir Benfro newydd yma.”
Plaid Cymru v Ceidwadwyr
“Does dim amau mai cystadleuaeth rhwng Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr fydd hi, ond wrth gwrs gyda hynny, fe fydd Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn siŵr o bendroni am beth allant gynnig yn wahanol i’r Blaid a’r Ceidwadwyr yno – sy’n cynnig un elfen o ddirgelwch inni,” meddai Ben Lake.
Mae Elin Jones, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Geredigion, wedi dweud ar Twitter ei bod yn poeni am ba mor effeithiol y byddai aelod seneddol yn gallu cynrychioli ardal mor ‘faith’.
Mae Ben Lake eisoes wedi codi pryderon am hyn ar lawr y siambr wrth drafod y mesur y llynedd.
“Does dim gwadu y byddai’n golygu dipyn o deithio i bwy bynnag fydd yr aelod seneddol wedi’r etholiad nesaf, bydd yna lawer yn fwy o gyfarfodydd rhithiol ac mae yna ddadl na fyddai hynny’n ddrwg i gyd,” meddai.
“Ond dw i’n sicr yn fy marn i mae angen cadw cyfarfodydd wyneb yn wyneb pan fydd y pandemig ar ben.
“Dw i ond yn gobeithio y bydd awdurdodau Seneddol yn edrych a fydd angen ystyried opsiynau gwahanol o bigo lle ble fyddai swyddfa’n deg i bawb gyrraedd.”
Dwyfor Meirionnydd
Un arall o seddi Plaid Cymru sy’n cael ei heffeithio gan y newidiadau yw Dwyfor Meirionnydd, a fydd yn etifeddu hanner etholaeth bresennol arall Plaid Cymru yn Arfon.
I bob pwrpas, dyma fydd sedd fwyaf diogel Plaid Cymru yn y dyfodol, ond yn ôl Liz Saville Roberts, yr Aelod Seneddol dros yr etholaeth, mae angen edrych ar y darlun cyflawn.
“Mae’n bwysig peidio edrych ar beth sy’n digwydd yn yr etholaethau unigol gan edrych ar y darlun llawn, gan fod rhywbeth ehangach ar waith fan hyn,” meddai wrth Golwg360.
Bydd Cymru yn colli wyth aelod seneddol, sy’n fwy nag unrhyw wlad arall yn y Deyrnas Unedig.
Mae disgwyl i Loegr dderbyn 10 aelod ychwanegol gan godi’r nifer i 543 aelod seneddol, yr Alban yn colli dau aelod o 59 i 57 a Gogledd Iwerddon yn aros ar 18.
‘Didrugaredd’
“Beth sydd ar waith yw cynllun fformiwleïg, mathemategol ac mae hynny’n cael ei ddefnyddio’n eithaf didrugaredd yn erbyn Cymru,” meddai Liz Saville Roberts.
“Dyma’r camau diweddaraf ar lwybr y Torïaid i gymryd rheolaeth yn ôl i San Steffan.
“Fel Plaid Cymru, dydyn ni ddim am fod yn San Steffan o gwbl, ond byddwn i’n dadlau i’r dyn a’r ddynes ar y stryd, mae gweld sut mae San Steffan yn gallu newid sut mae Cymru yn cael ei chynrychioli dros nos yn profi eto fyth pam fod angen cymryd rheolaeth dros ein gwlad ein hunain.
“Mae yna batrwm jig-so yma, bydd yn rhaid i bleidleiswyr brofi eu hunaniaeth cyn bwrw pleidlais yn etholiadau’r dyfodol gan dargedu’r math o bobol sydd ddim fel arfer yn pleidleisio dros y Ceidwadwyr.
“Mae’n dueddol o fod ymhlith bobl dlawd, pobl ifanc, pobl o dras ethnig BAME.”
Bydd y broses ymgynghori ar agor am wyth wythnos, a bydd gan bobol gyfle i ddweud eu dweud cyn Tachwedd 3.