Mewn darn blog arbennig o Ganada, Hefina Phillips sy’n sôn am i Eglwys Gymraeg Dewi Sant, Toronto.
Tybed faint o ddarllenwyr Golwg sy’n gwybod am Eglwys Dewi Sant, Toronto – yr unig eglwys Gymraeg sydd ar ôl yng Nghanada bellach. Dyma ganolfan “y pethe” Cymraeg yn ogystal â man addoli i Gymry’r ddinas a’r cylch. Dyma lle cynhelir dosbarthiadau Cymraeg ac ambell i Eisteddfod; dyma lle mae Côr Meibion Cymry Toronto a Chôr Merched Dewi yn ymarfer. Dyma hefyd lle cynhelir dosbarth Beiblaidd bob wythnos a lle byddwn yn cwrdd i gael cinio; a lle bydd Merched y Capel yn trefnu gwahanol weithgareddau. Bob tro bydd rhywun yn priodi neu yn cael pen-blwydd arbennig, dyma lle cynhelir y dathlu. A beth am Ddydd Gŵyl Dewi, y Nadolig neu’r Pasg? Wrth reswm bydd cinio arbennig yn y capel. A phob Nos Wener y Groglith bydd Cymanfa Ganu.
Mae plant yn Ysgol Sul yn dwlu perfformio yn y gwasanaethau ac yn canu yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg. Maent hefyd yn canolbwyntio ar blant dramor sydd yn llai ffodus, gan gasglu ceiniogau gan y gynulleidfa bob wythnos er mwyn prynu rhwydau i atal mosgitos, a gwely a chlustog i bob plentyn.
Mae ein gwasanaethau yn amrywiol : nôl ym mis Mai cawsom wasanaeth (tu allan!) i fendithio ein hanifeiliaid anwes.
Ym mha iaith cynhelir ein gwasanaethau, gofynnwch. Fore Sul yn Saesneg fydd y bregeth a’r weddi gyda chanu emynau yn Gymraeg gan amlaf. Unwaith y mis ar nos Sul bydd gwasanaeth Cymraeg. Hyfryd iawn yw derbyn y cymun yn iaith ein mebyd.
Rydym wedi bod yn ffodus iawn wrth ddenu gweinidogion Cymraeg yn ystod ein can mlynedd o fodolaeth. Bu’r Parchedig Deian Evans gyda ni am y chwe mlynedd diwethaf ond mae e a’i wraig Annette wedi penderfynu ei bod yn bryd iddynt ddychwelyd i Gymru. Felly yn y dyfodol agos iawn fe fyddwn yn chwilio am weinidog newydd – rhywun sy’n awyddus i ehangu ei brofiad/phrofiad drwy wasanaethu mewn dinas rhyngwladol iawn.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Hefina Phillips (hefina@cogeco.ca neu 905-847-5474) Cyfeiriad y wefan yw www.dewisant.com