Mae fferi wedi suddo yn y Congo gan ladd hyd at 200 o deithwyr – sef pedair gwaith yn fwy nag oedd i fod i deithio ar fwrdd y llong.

Y gred yw bod gweithwyr y fferi wedi llwgrwobrwyo swyddogion er mwyn iddyn nhw gael gwthio mwy o deithwyr ar ei bwrdd.Mae’n debyg eu bod wedi dianc ar ôl clywed bod y llong wedi suddo.

Yn ôl dirprwy-lywodraethwr talaith Kasai Occidental, Hubert Mbingho, roedd o leiaf 153 o bobl ar y fferi a suddodd ar afon Kasai nos Sadwrn – er mai dim ond 36 o enwau oedd ar y rhestr teithwyr swyddogol.

“Rydyn ni’n aros am ganlyniad yr ymchwiliad er mwyn i ni gael arestio a chosbi’r holl swyddogion oedd yn gyfrifol am ddiogelwch y cwch,” meddai Mr Mbingho.

Her rheoli teithiau ar y Congo

Mae rheoli trafnidiaeth dŵr yn y Congo yn profi’n her enfawr i wlad sydd â thlodi a diweithdra uchel.

Mae diffyg hyfforddiant a chyflogau isel hefyd yn broblem gan arwain at lwgrwobrwyo.

Llun: ‘Pirogues on the Congo’ gan Julien Harneis ar Flikr