Mae aelodau o undebau diwydiannau trafnidiaeth Ffrainc ar streic heddiw mewn protest yn erbyn codi oedran ymddeol swyddogol y wlad.
Mae gwasanaethau trenau, bysiau, awyrennau, swyddfeydd post ac ysgolion wedi cau oherwydd y streic.
Mae tua 30% o athrawon ysgolion cynradd Ffrainc wedi ymuno â’r streic mewn protest yn erbyn polisïau addysg y llywodraeth.
Mae senedd Ffrainc newydd ddechrau trafod cynlluniau i ddiwygio system pensiwn y wladwriaeth.
Mae llywodraeth Ffrainc yn dadlau bod codi’r oedran ymddeol o 60 i 62 yn hanfodol gan fod pobl yn byw’n hirach ac maen nhw’n annog o bawb i ddangos “dewder” wrth iddynt geisio lleihau’r ddyled genedlaethol.
Mae’r Almaen eisoes wedi codi’r oedran o 65 i 67 gyda’r Unol Daleithiau’n hefyd yn bwriadu codi’r oedran i 67.
Llun gan Thibault Camus- AP Photo.