Fe fydd hi’n fis arall cyn i’r gŵr sy’n cael ei gyhuddo o lofruddio Ffion Wyn Roberts ymddangos ger bron y llys.

Er fod disgwyl i Iestyn Davies ymddangos ger bron Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener diwethaf, dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder nad oedd posib iddo fod yno am “resymau ymarferol” a bu raid gohirio’r achos.

Cafwyd cadarnhad heddiw y bydd Iestyn Davies yn ymateb i’r cyhuddiad o lofruddiaeth yn Llys y Goron Caernarfon ar Hydref 22.

Cafodd corff Ffion Wyn Roberts ei ganfod mewn camlas ar 10 Ebrill ar ôl iddi gael ei thagu a’i boddi.

Llun : Ffion Wyn Roberts