Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yn dweud nad oes gan Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, afael ar farn y cyhoedd am gynnal refferendwm annibyniaeth i Gymru.

Daw hyn ar ôl iddo fe wfftio’r posibilrwydd o refferendwm annibyniaeth i Gymru pe bai Llafur mewn grym ar ôl Mai 6, er bod nifer aelodau Yes Cymru wedi cynyddu’n sylweddol iawn dros y flwyddyn ddiwethaf, a bod materion Brexit a’r pandemig wedi dod â datganoli a phwerau dan y chwyddwydr fwyfwy.

Fe fu Mark Drakeford siarad ag Adrian Masters mewn rhaglen etholiadol ar ITV Cymru neithiwr (nos Lun, Ebrill 13), wrth i’r pleidiau baratoi ar gyfer etholiadau’r Senedd fis nesaf.

Mae Plaid Cymru eisoes wedi addo refferendwm annibyniaeth pe baen nhw’n dod i rym, ond mae Mark Drakeford yn dweud bod ganddo fe fydolwg “rhyngwladol, nid cenedlaetholgar”.

Dywedodd ei fod e am arwain “Cymru allblyg” yn hytrach na Chymru “sy’n cau ein hunain i ffwrdd”.

Daw ei sylwadau ar ôl iddo fe ddweud yn ddiweddar na fyddai’n barod i gefnogi refferendwm annibyniaeth oni bai bod Plaid Cymru’n ennill mwyafrif ac yn sgil hynny, fandad i alw am refferendwm.

Gyda hynny, mae e wedi wfftio’r posibilrwydd o ystyried refferendwm fel rhan o gytundeb i ffurfio llywodraeth glymbaid pe bai’n dod i hynny.

‘Ymateb mewn panig’

“Mae ymateb y prif weinidog mewn panig yn profi gymaint mae’r gefnogaeth gynyddol i annibyniaeth y tu hwnt i’w amgyffred,” meddai Liz Saville Roberts.

“Fe fydd pleidleiswyr Llafur, yn briodol iawn, wedi’u siomi gan y sylwadau hyn gan nad ydyn nhw’n adlewyrchu barn y mwyafrif o fewn eu plaid mewn unrhyw ffordd.

“Yn wrthgyferbyniad llwyr, mae Plaid Cymru wedi neilltuo pennod gyfan yn ein maniffesto i gyflwyno’r achos positif dros annibyniaeth.

“Cymru a’r Byd’ yw ein gweledigaeth allblyg, wedi’i thanlinellu gan barch at ein gilydd a chydweithredu â chenhedloedd eraill.

“Bydd nifer o genhedloedd annibynnol bychain wedi’u syfrdanu gan fydolwg ynysig arweinydd Llafur, y byddai’n well ganddo fo amddiffyn Undeb na hybu Cymru hunanhyderus sy’n gwneud ei ffordd ei hun yn y byd, yn rhydd rhag rheolaeth Dorïaidd yn San Steffan.”