Mae Dr Rhys Thomas wedi camu i lawr fel ymgeisydd Plaid Cymru, a hynny er mwyn canolbwyntio ar ei waith o drin cleifion Covid.
Yn wreiddiol roedd Dr Thomas ar ben rhestr ymgeiswyr Plaid Cymru ar gyfer rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Ar ôl gwasanaethu ar faes y gad fel uwch-swyddog meddygol yn y fyddin mae nawr yn uwch-ymgynghorydd mewn ysbyty ac wedi bod yn y rheng flaen yn erbyn Covid-19 ers dechrau’r pandemig.
Wrth i’r frwydr yn erbyn Covid-19 barhau, dywedodd Dr Thomas ei fod yn gorfod neilltuo ei holl amser a’i egni i ddatblygu ffyrdd newydd o fynd i’r afael â Covid-19 ac iddo wneud “y penderfyniad anodd iawn” o gamu i lawr fel ymgeisydd.
Dywedodd bryd hynny bod dyfeisio’r teclyn yn ‘brawf fod Cymru yn gallu sefyll ar ei thraed ei hun’
“Penderfyniad anodd iawn”
“Fel un sy’n credu’n angerddol yng ngweledigaeth Plaid Cymru i Gymru, mae wedi bod yn benderfyniad anodd iawn,” meddai Dr Rhys Thomas am ei benderfyniad heddiw i gamu o’r neilltu.
“Ond fel meddyg yn y cyfnod hynod heriol hwn, rwyf wedi gorfod neilltuo fy holl amser a’m hegni i ddatblygu ffyrdd newydd o fynd i’r afael â Covid-19.
“Rwy’n gobeithio y bydd fy amser i wasanaethu Cymru fel gwleidydd yn dod eto yn y dyfodol, ond am y tro mae’n rhaid i mi wasanaethu fy ngwlad fel clinigwr.
Mae’r cynghorydd sir Llanfihangel Aberbythych, Cefin Campbell, wedi cael ei ddewis yn ei le.
Ychwanegodd Dr Thomas: “Dw i wedi adnabod Cefin ers blynyddoedd lawer. Mae’n berson craff, brwdfrydig, egnïol a deallus iawn, gydag ystod anhygoel o wybodaeth mewn cynifer o feysydd. Mae’n gyfathrebwr gwych a byddai’n gwneud Aelod ardderchog ac aruthrol o’r Senedd.”
Gallwch ddarllen portread o Dr Rhys Thomas o Golwg 2 Ebrill 2020 isod, gyda’r wal dalu wedi’i chodi.