Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi canmol ymdrechion meddyg o Gaerfyrddin a chwmni o Rydaman i ddatblygu dyfais i helpu cleifion coronafeirws mewn ysbytai i anadlu.

Dywed fod cynhyrchu’r ddyfais yn “enghraifft ysblennydd o gydweithredu ar ei orau.”

Dyfeisiodd y Dr Rhys Thomas, anesthetydd ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili Caerfyrddin, y peiriant ar sail ei brofiad helaeth ac ar sail cyngor gan feddygon sy’n brwydro yn erbyn coronafeirws yn Bergamo, yr Eidal.

Yn dilyn pryderon ynghylch y diffyg peiriannau anadlu mewn unedau gofal dwys i ymdopi â phandemig coronafeirws, dywedodd Dr Thomas fod arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wedi ei holi a oedd modd creu “dyfais symlach ond a allai fod yr un mor effeithiol.”

Y gobaith yw drwy ei wneud yn symlach, byddai modd ei fás-gynhyrchu i gwrdd â’r galw.

Cafodd y peiriant ei ddefnydio’n llwyddiannus i drin claf oedd â coronafeirws yn Llanelli nos Sadwrn (Mawrth 21), ac y mae’r claf bellach yn “dod ato’i hun.”

Gall y peiriant hefyd “lanhau gronynnau feirol o ystafell” a chyflenwi aer puredig yn unig i’r claf Covid-19.

Mae hyn yn galluogi’r claf i “ofalu amdano’i hun” gan ryddhau nyrsys arbenigol i wneud dyletswyddau eraill.

“Wythnos yn ôl, ar ôl fy herio i feddwl am ddyfais oedd yn symlach ond a allai fod yr un mor effeithiol, rhoddodd Adam Price fi mewn cysylltiad â Maurice Clark o CR Clark Betws, Rhydaman – cwmni peirianyddol sy’n arbenigo mewn cyfarpar Thermoffurfio a Gwneuthuriad Plastig,” meddai Dr Rhys Thomas.

“Ar ôl dylunio, adeiladu a rhoi prawf ar sawl prototeip mewn dim ond tri diwrnod, fe wnaethom ddyfais oedd yn gweithio’n berffaith.

“Mae’n syml ac yn wydn, ac wedi ei ddylunio’n unswydd i weithio yn erbyn y firws Covid mewn amgylchedd heintus.”