Mae Liz Saville-Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi diolch i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, am “arwain ymgyrch aelodaeth y mudiad annibyniaeth” yng Nghymru.

Daw ei neges wrth i Yes Cymru ddenu dros 2,000 o aelodau dros gyfnod o ddau ddiwrnod, gyda’r cyfanswm erbyn hyn wedi mynd y tu hwnt i 12,000.

Mae hi wedi cyhuddo Boris Johnson o “wfftio datganoli” wrth i bobol yng Nghymru golli eu swyddi ar ôl iddo fe a’r Canghellor Rishi Sunak wrthod ymestyn y cynllun ffyrlo yng Nghymru a’r Alban hyd nes bod cyfnod clo wedi’i gyhoeddi yn Lloegr.

Fe wnaeth Plaid Cymru alw saith gwaith am ymestyn y cyfnod ffyrlo cyn hynny.

‘Disgwyl i ni ymddwyn yn ddiolchgar yng Nghymru’

“Rydym wedi dysgu cymaint ers y gwanwyn,” meddai Liz Saville-Roberts yn San Steffan.

“Rydym wedi dysgu bod disgwyl i ni ymddwyn yn ddiolchgar yng Nghymru.

“Rydym wedi dysgu nad yw’r Trysorlys ond yno i ni pan fo siroedd cartref Lloegr yn mynd i gyfnod clo – wfftio datganoli a gostiodd swyddi pobol oedd hyn.

“Yn syml iawn, daeth y newyddion yn rhy hwyr.

“Efallai nad yw e wedi sylwi eto ond mae’r Prif Weinidog a’i Ganghellor yn arwain ymgyrch aelodaeth y mudiad annibyniaeth Yes Cymru, oedd wedi ychwanegu 2,000 o aelodau mewn dau ddiwrnod y penwythnos hwn.

“A wnaiff e dderbyn fy niolch?”

Wrth ymateb, dywedodd Boris Johnson fod y cydweithio rhwng llywodraethau Cymru a Phrydain wei bod yn “ardderchog”.

‘Cynddeiriog’

“Mae pobol yng Nghymru, yn gywir, yn gynddeiriog ynghylch penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ymestyn ffyrlo ddim ond pan fo’i angen ar siroedd cartref Lloegr,” meddai Liz Saville Roberts wedi’r sesiwn.

“Ar o leiaf saith achlysur, fe wnaeth Plaid Cymru ofyn yn uniongyrchol i’r Prif Weinidog, y Canghellor ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru ymrwymo i ymestyn ffyrlo i gefnogi mesurau iechyd cyhoeddus Cymru.

“Bob tro, ‘Na’ oedd yr ateb.

“Nid yw’n syndod fod mwy o bobol nag erioed yn ymuno â’r mudiad i adeiladu cenedl lle caiff pobol eu trin â’r parch maen nhw’n ei haeddu – ac nid fel ôl-ystyriaeth.”