Mae mwy na 125,000 o swyddi wedi eu colli yn y sector manwerthu yng ngwledydd Prydain yn ystod wyth mis cyntaf 2020, sy’n nifer dipyn uwch nag oedd wedi cael ei amcangyfrif yn flaenorol.
Yn ôl data newydd gan y Ganolfan Ymchwil Manwerthu, mae 125,515 o swyddi manwerthu wedi eu colli a 13,867 o siopau wedi cau yn barhaol.
Er bod y rhan fwyaf o’r swyddi sydd wedi eu colli yn deillio o siopau mawr (73,133), mae’r ymchwil wedi darganfod fod 32,598 o swyddi yn ychwanegol wedi diflannu gan fanwerthwyr annibynnol.
Dydwedodd yr Athro Joshua Bamfield, cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwilio Manwerthu, “Er bod rhai cwmnïau yn llwyddo, mae’r rhan fwyaf o fanwerthwyr dan bwysau eithriadol.
“Methodd nifer o fanwerthwyr ag aildrefnu eu cwmnïau ym mlynyddoedd cynnar y 2010au, ac mae’n rhaid gwneud gwerth pum mlynedd o ailstrwythuro mewn chwe mis.”
Nid yw’r 125,000 o swyddi yn cynnwys toriadau i swyddi yn y sector hamdden na lletygarwch.
Er gwaethaf y toriadau mae rhai manwerthwyr, megis Tesco, Iceland, Amazon, a’r DPD, wedi creu swyddi newydd i ymdopi â chynnydd yn y galw.
Galw ar Lywodraeth Prydain i ymyrryd
Yn ôl Helen Dickinson, prif weithredwr Consortiwm Manwerthu Prydain, “mae’r coronafeirws yn parhau i gael effaith ddinistriol ar fusnesau manwerthu, gyda chanolfannau siopau a chanol ein trefi yn gweld llai o ymwelwyr.
“Mae’n rhaid i Lywodraeth Prydain sicrhau system drethi tymor hir, gynaliadwy.
“Heb ymyrraeth, mae’n beryg mai’r dechrau yn unig yw’r colledion swyddi sydd wedi digwydd hyd yn hyn.”
Ymysg y cwmnïau sydd wedi cyhoeddi newidiadau a thoriadau staff eisoes mae M&S a Debenhams.
Mae John Lewis wedi cyhoeddi fod 1,300 o swyddi mewn perygl, ac na fydd wyth o’u siopau ledled Prydain yn agor eto.
Mae trysorlys Llywodraeth Prydain wedi cael gwared ar £10.13 biliwn sydd yn ddyledus mewn trethi busnesau, gan eithrio 358,264 o eiddo manwerthu, hamdden a lletygarwch yn Lloegr rhag ei dalu.
“Ni ellir gorfodi’r sector manwerthu i dalu’r un faint o dreth eiddo ag oedd mewn lle cyn y pandemig” yn ôl Robert Hayton, pennaeth ardrethiant busnesau Altus Group.
Llywodraeth Prydain yn annog y cyhoedd i wario
Mewn ymateb i’r argyfwng sy’n wynebu swyddi manwerthu, mae Llywodraeth Prydain wedi cyflwyno cyfres o ymdrechion i annog y cyhoedd i siopa a gwario.
Ymysg rhain mae rhaglen Kickstart, sy’n annog busnesau i greu swyddi ar gyfer bobol ar incwm isel neu bobol ddi-waith.
Bydd y swyddi hyn yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Prydain am chwe mis, ond nid oes gwybodaeth am y costau wedi ei ryddhau hyd yn hyn.
Yn ôl Jace Tyrrell, prif weithredwr y New West End Company, sydd yn cynrychioli 600 o fusnesau yn y West End yn Llundain, “mae’n rhaid sicrhau na fydd ymwelwyr o’r Undeb Ewropeaidd yn talu trethi ar nwyddau ar ôl i’r cyfnod pontio Brexit ddod i ben, er mwyn rhoi hwb posib o biliwn o bunnoedd i’r economi yn 2021 a thu hwnt,”
Mae’r Gwasanaeth Methdaliadau wedi datgelu fod 305,427 o bobol mewn perygl o gael eu diswyddo, wrth i Lywodraeth Prydain geisio annog pobol i deithio i’w gwaith er mwyn cefnogi busnesau lleol.
Datganodd y Ganolfan Ymchwil Manwerthu fod 43,381 o swyddi wedi eu colli wrth i fanwerthwyr fynd i’r weinyddiaeth, a bod 10,556 o swyddi wedi eu colli drwy drefniant gwirfoddol ar ran cwmnïau.
Y llynedd, gwnaeth y sector manwerthu £384 biliwn wrth gyflogi mwy na 2.9 miliwn o weithwyr.