Mae dyn wedi cael dedfryd oes am lofruddio Asim Khan yng nghanol Dinas Caerdydd union flwyddyn yn ôl.
Roedd Asim Khan, o Grangetown yn 21 oed pan fu farw ar ôl cael ei drywanu ar Heol Eglwys Fair tua 4.50yb ar Orffennaf 21 y llynedd.
Cafwyd Momodoulamin Saine, 28 oed o Drelái, yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Casnewydd yn gynharach y mis hwn ac roedd e yn y llys heddiw i gael ei ddedfrydu.
Bydd yn treulio o leiaf 24 mlynedd yn y carchar.
Unigolyn treisgar
“Roedd Asim Khan yn ddyn ifanc gyda photensial mawr a oedd yn annwyl iawn i’w deulu” meddai uwch swyddog ymchwilio, Ditectif Prif Arolygydd Mark O’Dhea.
“Gweithredoedd Momodoulamin Saine a arweiniodd yn uniongyrchol at ei farwolaeth drasig yng nghanol Dinas Caerdydd.
“Yr hyn ddaeth i’r amlwg drwy gydol yr ymchwiliad a’r achos oedd bod Saine yn unigolyn treisgar, peryglus a oedd yn mynd â chyllell ar strydoedd Caerdydd.
“Ac oherwydd ei anniddigrwydd ei hun dros rywbeth mor ddibwys fel tywallt diod, teimlai ei bod yn angenrheidiol i gymryd rhan mewn dwy gyfarfyddiadau treisgar a arweiniodd at lofruddiaeth Asim.
“Mae’r achos hwn wedi arwain at y canlyniadau mwyaf trasig i deulu’r Khan. Mae ein meddyliau gyda theulu Asim ar hyn o bryd.
“Hoffwn ddiolch i’r eiddo trwyddedig a roddodd fynediad i CCTV, staff y drws a geisiodd ymyrryd a rhwystro’r trais rhag gwaethygu a’r tystion a gefnogodd ein hymchwiliad.
“Mae’r achos trasig hwn unwaith eto’n tynnu sylw at ganlyniadau dinistriol a phellgyrhaeddol troseddu gyda chyllyll, ac alla i ddim gorbwysleisio mor bwysig ydy hi bod anwyliaid yn adrodd am eu pryderon os ydynt yn amau bod rhywun y maen nhw’n ei adnabod yn cario cyllell neu’n troseddu â chyllyll.
“Gallai siarad allan, yn gwbl syml, achub bywyd.”
Cafwyd Hamza Khan, brawd Asim Khan, sy’n 24 oed yn euog o geisio achosi niwed corfforol difrifol bwriadol i Momodoulamin Saine, a bydd yn cael ei ddedfrydu yn ddiweddarach y mis hwn.