Does dim un person wedi derbyn dirwy am dorri rheolau hunan-ynysu ar ôl teithio o dramor, yn ôl ffigurau newydd.

Ar Fehefin 8 daeth rheol i rym a oedd yn golygu bod y rheiny a oedd yn teithio i’r Deyrnas Unedig o dramor yn gorfod treulio pythefnos yn hunan-ynysu.

Roedd ambell eithriad i’r rheol yma, ond i’r mwyafrif byddai torri’r rheol wedi golygu derbyn dirwy rhwng £100 a £1,000.

Bellach mae data Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn dangos bod dim un ddirwy wedi’i rhoddi gan heddweision yng Nghymru a Lloegr.

“Shambolig”

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig bellach wedi llacio’r drefn rhywfaint, ac wedi cyhoeddi rhestr o wledydd sydd yn eithriad i’r rheol hunan-ynysu.

Mae’r mater wedi bod yn asgwrn cynnen â Llywodraeth Cymru, a’r wythnos diwethaf wnaeth Mark Drakeford, y Prif Weinidog, alw’r broses o drafod hyn yn “brofiad shambolig”.