Mae merch 16 oed o Rwsia wedi disgyn mewn cariad â’r Gymraeg, a hynny er nad oes ganddi unrhyw gysylltiad â Chymru nag erioed wedi ymweld â’r wlad.

Dros y naw mis diwethaf, mae Nastya Lisitsyna wedi bod yn dysgu siarad Cymraeg, gan ddweud bod cyfathrebu â phobol yn yr iaith yn “deimlad gwych”.

Cafodd Nastya Lisitsyna ei geni yn Smolensk, ac mae’n astudio’r Gwyddorau Naturiol yn Ysgol Economeg Lyceum ym Moscow.

Daeth ar draws y Gymraeg am y tro cyntaf ar wefan Instagram ac mae hi’n dweud iddi gael ei denu tuag at yr iaith yn syth.

‘‘Mi wnes i benderfynu mynd ati i ddysgu sut i ynganu Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch ar ôl clywed enw’r pentref mewn fideo dros yr haf,” meddai Nastya Lisitsyna.

“Bu rhaid i mi ddysgu rheolau ynganu’r Gymraeg yn gyntaf, ac mi wnes i lwyddo yn y diwedd! Mi wnaeth hyn fy sbarduno i ddysgu’r Gymraeg ac mae’r profiad o ddysgu’r iaith yn dal i fy nghyffroi, naw mis yn ddiweddarach.’

Dywed ei bod wedi defnyddio sawl ffynhonnell wahanol i’w chynorthwyo i ddysgu’r iaith, gan gynnwys cwrs Duolingo a llyfr Teach yourself Welsh.

Ar ben hynny, mae hi wedi cymryd rhan yn Sadwrn Siarad, sef gweithdy ar-lein i ddysgwyr, sy’n cael ei drefnu gan Dysgu Cymraeg Sir Benfro, ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mewn gweithdy Sadwrn Siarad y cafodd Nastya Lisitsyna siarad gydag eraill yn y Gymraeg am y tro cyntaf.

‘‘Roedd fy Sadwrn Siarad cyntaf yn brofiad cyffrous a diddorol dros ben,” meddai.

“Roedd cyfathrebu gydag eraill yn y Gymraeg o’r diwedd yn deimlad gwych ac erbyn hyn, dw i’n cyfathrebu gyda phobl o Gymru yn gyson ar y We.

“Mae gweld a chlywed pobl eraill ar blatfform fel Zoom, yn hytrach na darllen eu negeseuon, bron iawn yn teimlo fel sgwrs go iawn”.

Annog eraill i ddysgu’r Gymraeg

Mae rhai o gyd-fyfyrwyr a ffrindiau Nastya Lisitsyna ar draws Rwsia a Belarws bellach wedi mynegi diddordeb mewn dysgu’r Gymraeg.

Dywed Nastya Lisitsyna eu bod yn trafod y Gymraeg gyda’i gilydd ar-lein.

Ac er nad oes cymdeithas Gymraeg ym Moscow, mae hi’n gobeithio y bydd hynny’n newid yn y dyfodol.

‘‘Hoffwn ddod o hyd i fwy o bobl sy’n dysgu Cymraeg ym Moscow ac o bosib eu cyfarfod rhyw ddydd,” meddai.

“Dw i’n dymuno rhannu fy niddordeb yn yr iaith ag eraill a sicrhau bod mwy o bobl Rwsia yn dod i wybod am y Gymraeg. Dw i eisiau bod yn rhugl yn yr iaith a dysgu mwy am y wlad a’i diwylliant.

“Gobeithio y bydd modd i mi ymweld â Chymru er mwyn ymarfer fy Nghymraeg yn y dyfodol agos!’’

Dyma fideo o Nastya Lisitsyna yn siarad Cymraeg ym Moscow: