Daeth cadarnhad bod 66 o bobol bellach wedi marw yn Siapan, gyda 16 arall dal ar goll yn dilyn llifogydd mawr yno.

Maen nhw yn dal i chwilio am bobol sydd ar goll ac mae eraill yn aros am gymorth yn sgil glaw trwm, llifogydd a mwd yn llifo lawr o’r mynyddoedd.

Dywed yr Asiantaeth Rheoli Tân a Thrychineb bod y rhan fwyaf o’r bobol sy’n diodde’ ar Kyushu, trydedd ynys fwyaf Siapan.

Ond mae’r difrod wedi lledaenu, tu hwnt i Kyushu, i bentrefi mynyddog yng nghanol Siapan.

Mae gwaith chwilio ag achub wedi parhau ym mhentref Kuma, lle mae naw o bobol ar goll, ac mae’r ymdrechion wedi cael eu heffeithio gan ddŵr dwfn a risg o ragor o fwd yn llifo lawr o’r mynydd.

Mae pobol sydd wedi cael eu hynysu yn sgil y llifogydd yn cael eu cludo i ddiogelwch gan hofrenyddion.

Dywed Prif Ysgrifennydd Cabinet Siapan, Yoshihide Suga, bod oddeutu 2,000 o bobol wedi eu hynysu mewn 70 ardal wahanol.

Mae’r awdurdodau a gweithwyr achub wedi bod mewn cysylltiad â rhan fwyaf o’r ardaloedd hyn, er nad ydyn nhw’n gwybod beth yw graddfa’r difrod eto.

Drwyddi draw, mae mwy na 1.2 miliwn o bobol wedi cael eu hannog i adael eu cartrefi am dir diogel, er nad yw hyn yn orfodol.

Mae’r asiantaeth wedi darogan y bydd 11 modfedd o law yn disgyn ar ynys Kyushu ddydd Sadwrn (Gorffennaf 11).

Mae Yoshihide Suga wedi annog trigolion yn yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio i ymgilio i gyfleusterau dynodedig.