Mae’r Aelod o’r Senedd tros y Rhondda yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’ wedi ei greu yn benodol ar gyfer merched.

Ond yn ôl Llywodraeth Cymru mae’r cyfarpar diogelu sydd eisoes ar gael yn amrywio o ran maint, a does dim angen PPE penodol ar gyfer merched.

Yn wreiddiol, fe alwodd Leanne Wood ar y Gweinidog Iechyd i sicrhau cyfarpar diogelu personol penodol i ddynion a merched ym mis Ebrill, gan ddweud y byddai hynny yn gwarchod gweithwyr benywaidd yn well.

Atebodd Vaughan Gething ar y pryd  ei fod wedi derbyn “cyngor nad yw’r diwydiant yn ystyried fod angen cynhyrchu PPE penodol i rywiau oherwydd amrywiaeth y meintiau sydd ar gael”.

Ond yn ôl Plaid Cymru, mae hyn yn mynd yn groes i adborth gan weithwyr iechyd ar lawr gwlad.

3/4 gweithlu’r Gwasanaeth Iechyd yn ferched

Mae ffigyrau gafodd eu cyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yr wythnos hon wedi dangos mai merched yw i bron i ddwy ran o dair o bob achos o’r coronafeirws sydd wedi eu cadarnhau yng Nghymru.

“Amcangyfrifwyd bod 77% o weithlu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn fenywod,” meddai Leanne Wood.

“Mae cyfran uwch fyth o fenywod yn gweithio mewn lleoliadau gofal cymdeithasol, sector arall sydd â risg uchel o ran coronafeirws.

“Gwyddom hyn nid yn unig o hanesion, ond o arolygon gan undebau llafur hefyd, fod y cyfarpar a ddarparwyd wedi ei ddylunio i ffitio dynion.

“Nid yw disgwyl i gyfran mor fawr o’r gweithlu wisgo cyfarpar gwarchod nad yw’n ffitio yn ddigon da, yn enwedig pan fod risg i’w bywydau.

“Mae eistedd yn ôl a gwneud dim byd – fel y mae’r Llywodraeth Lafur yn barod i wneud – yn arwydd o anwybyddu eu dyletswydd tuag at y miloedd o weithwyr benywaidd sydd wedi sefyll yn y bwlch i amddiffyn y cyhoedd rhag coronafeirws.

“Mae hyn yn arswydus o hunan-foddhaus, ac yn anghyfrifol.”