Mae Plaid Cymru yn ymchwilio i sylwadau diweddar am Israel gan un o’i darpar ymgeiswyr.

Ar ddechrau’r mis hwn wnaeth Sahar al-Faifi rannu lluniau ar Twitter o swyddogion yn penlinio ar yddfau dynion sydd, mae’n ymddangos, yn cael eu harestio.

Dyma’r dechneg a ddefnyddiwyd gan blismon gwyn pan fu farw’r dyn du, George Floyd, yn yr Unol Daleithiau ym mis Mai – wnaeth y farwolaeth yma danio cyfres o brotestiadau ledled y byd.

Ac mewn neges, ochr yn ochr â’r lluniau, mae Sahar al-Faifi yn awgrymu mai Israel wnaeth ddysgu’r dechneg hon i blismyn yr Unol Daleithiau.

Mae hon yn cael ei hystyried gan rhai yn theori gynllwyn (conspiracy theory) gwrth-Semitaidd, a chafodd gweinidog cysgodol Llafur y sac am rannu erthygl â’r fath farn brynhawn ddoe.

Yn sgil hyn i gyd mae sawl ffigwr – gan gynnwys ymgeisydd Plaid Cymru – wedi galw ar arweinydd Plaid Cymru i weithredu.

Yn dilyn ymholiad gan golwg360, mae Plaid Cymru wedi cadarnhau eu bod yn edrych fewn i’r mater.

Meddai llefarydd: “Mae Plaid Cymru yn ymchwilio i bost a wnaed ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’r Blaid wedi ymrwymo yn llawn i herio pob math o wahaniaethu.”

Galw am weithredu

Bydd Wiliam Rees yn sefyll tros y Blaid yng Nghanol Caerdydd yn etholiad 2021, ac mewn neges ar Twitter mae’n dweud “nad oes lle i wrth-Semitiaeth ym Mhlaid Cymru”.

“Mae’r saga yma wedi bod yn mynd rhagddi am ormod o amser,” meddai. “A dw i’n gobeithio bydd Adam Price a’n Pwyllgor Gweithredol yn dangos arweinyddiaeth ar y mater.”

Mewn neges sy’n tynnu sylw at drydariad Sahar al-Faifi, mae Hefin David, yr Aelod Llafur o’r Senedd yn dweud: “Dywedodd hi hyn ym mis Mehefin 2020. Gweithreda Adam Price.”

“Wnaeth Starmer rhoi’r sac i Long-Bailey,” meddai ei gyd-Aelod Llafur, Alun Davies. “Beth fydd Adam Price yn ei wneud?”

Mae Andrew RT Davies, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd, yn galw sylwadau Sahar al-Faifi yn “nonsens”, ac yn ceryddu cyn-arweinydd y Blaid am ei chefnogi.

“Wnaeth Plaid Cymru anwybyddu sylwadau blaenorol, ac mae Leanne Wood wedi ei chefnogi,” meddai. “Digon yw digon. A wnei di weithredu yn awr Adam Price?”

Pwy yw Sahar al-Faifi?

Mae Sahar al-Faifi yn gobeithio bod yn ymgeisydd i’r Blaid yn rhanbarth Canol De Cymru yn etholiad Senedd 2021, ac mae eisoes wedi bod dan y lach dan sefyllfa debyg.

Cafodd ei gwahardd o Blaid Cymru yn 2019 wedi iddo ddod i’r amlwg ei bod wedi rhannu trydariadau gwrth-Semitaidd yn 2014.

Wnaeth hi ddileu’r rhain ac ymddiheuro, ac yn sgil hyn mi ddychwelodd i Blaid Cymru.

Mae golwg360 wedi gofyn i Blaid Cymru am ymateb.

Y trydariad

Ymateb

“Roedd fy nhrydariad ar Fehefin 1 yn seiliedig ar adroddiad Amnesty International a gafodd ei dynnu yn ôl heddiw ar Fehefin 26, 2020,” meddai Sahar al-Faifi wrth ymateb.

“Mae’r trydariad bellach wedi ei ddileu. Ymddiheuraf am unrhyw anghywirdeb neu sarhad.”