Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi rhybuddio y bydd yn rhaid cytuno ar estyniad i’r trafodaethau Brexit, os nad yw’r Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn llwyddo i sicrhau cytundeb fasnach ôl-Brexit erbyn diwedd y flwyddyn.

Byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb masnach “yn cael effaith trychinebus” ar y diwydiant amaeth yng Nghymru, meddai’r FUW.

Daeth yr Undeb i’r casgliad hwn mewn cyfarfod rhithiol ddydd Iau (Mehefin 25).

“O ystyried bod dwy draean o allforion Cymru’n mynd i aelodau’r Undeb Ewropeaidd a bod amaeth yng Nghymru’n ddibynnol ar yr allforion yma, byddai methu sicrhau cytundeb fasnach â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl y cyfnod trawsnewid presennol yn gatastroffi i Gymru a’i ffermwyr,” meddai Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts.

Dywed yr FUW bod hi’n hanfodol bod mwy o amser yn cael ei roi i gynnal trafodaethau, os nad yw cytundeb fasnach yn cael i gwblhau o fewn y flwyddyn.

“Rydym eisoes wedi galw am estyniad o’r fath, ar adegau lle’r oedd hi’n edrych fel petai ni’n mynd dros y dibyn ac rwyf yn falch bod Cyngor yr Undeb hwn wedi rhoi eu cefnogaeth i’r penderfyniad eto,” meddai Glyn Roberts.

Mae’r FUW wedi dadlau ers tro y byddai defnyddio rheolau’r World Trade Organisation, sef beth fydd yn digwydd mewn senario Brexit heb gytundeb, yn cael effaith trychinebus ar amaeth yng Nghymru.

“Felly rwyf yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wrando ar y cyngor hwn a chytuno ar estyniad, os nad ydyn nhw’n llwyddo i gwblhau cytundeb â’r Undeb Ewropeaidd,” ychwanegodd Glyn Roberts.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud sawl tro na fydd yna estyniad i’r trafodaethau Brexit.