Y gynta’ mewn cyfraniadau rheolaidd o wefan y Sefydliad Materion Cymreig. Geraint Talfan Davies yn asesu oblygiadau’r argyfwng yn S4C ac ymateb gwan i Gymru gan Ymddiriedolaeth y BBC.

Ble bynnag yr edrychwch chi, mae cyfnod gwyliau mis Awst yn dangos bod darlledu Cymru mewn tir neb peryglus. Mae’r ffordd amrwd y cafwyd gwared ar Iona Jones, prif weithredwr S4C am y pum mlynedd diwethaf, yn gadael y sianel yn ymladd am ei chyllideb, os nad ei bywyd, yn erbyn llywodraeth sydd fel petai’n mwynhau chwifio’r gyllell.

Does dim cysur o gwbl i Gymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon am ddyfodol gwasanaethau’r tair cenedl yn y ‘casgliadau cychwynnol’ a gyhoeddodd Ymddiriedolaeth y BBC ar Adolygiad Strategaeth rheolwyr y Gorfforaeth. Mae dyfodol ITV yn parhau’n aneglur, er y gallwn obeithio mai arwydd bod llanw’r newyddion drwg i Sianel 3 yn troi oedd recriwtio newyddiadurwr gwleidyddol uchel ei barch fel Adrian Masters o BBC Wales i fod yn olygydd gwleidyddol i ITV Cymru.

Ynghanol hyn i gyd, gwnaeth y Dirprwy Brif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, araith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos ddiwethaf yn dadlau bod yr amser wedi dod i ddechrau trafod datganoli’r cyfrifoldeb am ddarlledu. Rhoddodd glod i’r Sefydliad Materion Cymreig am wneud cyfres o awgrymiadau.

O gofio cyflwr presennol S4C a BBC Cymru, byddai modd ystyried bod trafod datganoli darlledu – a fydd, ar y gorau, yn cymryd blynyddoedd i’w gyflawni – yn enghraifft o ganu’r ffidil wrth i Lanishen losgi. Fodd bynnag, mae picil S4C – sy’n cael ei bygwth gan doriadau o 25% yn ystod y pedair blynedd nesaf – a methiant ymddangosiadol Ymddiriedolaeth y BBC i ddeall natur ei gwasanaethau i Gymru, yn tanlinellu’n fwy na dim mai Bae Caerdydd ac nid Llundain yw’r lle i benderfynu’r materion hyn.

Picil S4C

Fyddai neb eisiau’r dasg sy’n wynebu Awdurdod S4C a’r prif weithredwr tros dro, Arwel Ellis Owen. Mae yna sawl darn brys o waith, gydag amserlenni gwahanol: trafod toriadau gyda’r Adran Dreftadaeth yn Llundain yn yr wythnosau nesaf, sefydlogi’r drefn reoli a recriwtio prif weithredwr newydd o fewn y misoedd nesaf ac, yn y flwyddyn nesaf, gwneud y gwaith angenrheidiol iawn o osod strategaeth newydd.

Does fawr o amheuaeth bod angen ailystyried sylfaenol yn S4C. Byddai hynny’n golygu ailasesiad trylwyr o gynulleidfa bresennol y sianel a pherfformiad ei rhaglenni. Ond, yn fwy na hynny, dylai hefyd olygu gwaith i ddod i ddealltwriaeth newydd  ar y cyd o natur bresennol y gynulleidfa Gymraeg a’r ffordd y mae’n defnyddio teledu, radio a gwasanaethau ar-lein.

Ers lansio S4C yn 1982, bu newidiadau anferth yn y gynulleidfa honno, gan gynnwys yn yr hunan-ddehongliad o beth yw bod yn rhugl a hyd yn oed newid yn natur yr iaith lafar. Dyw cyflymder y newid ddim wedi arafu ers dyfodiad y gwasanaeth ar ei newydd wedd ar ffurf ddigidol. Byddai astudiaeth o’r fath yn sicr o fod ag oblygiadau arwyddocaol o ran comisiynu rhaglenni.

Bydd yr holl waith yma’n digwydd yn erbyn ymchwiliad i ymadawiad Iona Jones a’r hyn y mae’n ei ddweud am safon rheolaeth yn S4C. Mae’n rhyfeddol bod sianel a oedd wedi creu conglfaen soled o gefnogaeth eang ar draws yr holl bleidiau ac yng Nghaerdydd a Llundain, wedi gallu taflu’r gefnogaeth honno o’r neilltu mor gyflym. Mewn rhai ffyrdd, mae S4C wedi bod yn ysglyfaeth i’r consensws cynharach hwnnw. Bron nad oedd yn rhy gryf, yn gosod y sianel y tu hwnt i feirniadaeth, ac, efallai’n anfwriadol, yn mygu’r hunanfeirniadaeth fewnol y mae pob sefydliad iach ei hangen er mwyn goroesi.

Mae llawer yn y fantol a dyw’r hinsawdd ddim yn ffafriol o bell ffordd. Nid mater o arian yn unig yw hynny. Yn Llundain yn y blynyddoedd diwethaf, bu arwyddion bod y diffyg dealltwriaeth endemig o Gymru a’i gweithgareddau’n lleihau. Er hynny, mae hynny’n parhau yn achos S4C, gan fod asesu ei chyllideb a’i chynulleidfa’n golygu meini prawf sy’n hollol wahanol i unrhyw wasanaeth darlledu arall.

Mae hen amddiffyniad Willie  Whitelaw wedi treulio’n denau braidd – “mae’n fuddsoddiad mewn cytgord cymdeithasol” – ac mae wedi ei ddisodli gan apêl at rôl darlledu cyhoeddus ym maes y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Roedd adroddiad diweddar a gomisiynwyd ar ran Llywodraeth Cymru gan Ian Hargreaves yn ceisio anadlu bywyd newydd i’r ddadl hon. Roedd yn annog rhagor o drafod am S4C gan awgrymu y dylai gael ei chlymu’n nes at bolisi economaidd Llywodraeth Cymru. Mae peth gafael go iawn yn y ddadl economaidd, ond rhaid iddi fod yn ddadl eilradd yn achos S4C, yn hytrach na phrif reswm. Cafodd ei chreu i ddarlledu a rhaid iddi ddod o hyd i gynulleidfa a’i gwasanaethu cyn ystyried dadleuon eraill.

Yn yr amser byr sydd gan Awdurdod S4C – bydd canlyniadau arolwg gwario Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael eu cyhoeddi ar 20 Hydref – efallai na fydd yn gallu rhoi’r holl atebion. Eto, rhaid iddo ddangos ei fod yn gofyn y cwestiynau cywir, nad yw’n ofni bod yn hunan-feirniadol a bod y newid ar y brig wedi digwydd am reswm cyhoeddus creadigol.

Rhyfeddol – Ymddiriedolaeth y BBC

Yn y cyfamser, dyw Ymddiriedolaeth y BBC ddim wedi disgleirio chwaith. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd ei ‘chasgliadau cychwynnol’ i Adolygiad Strategaeth rheolwyr y BBC a gyhoeddwyd ym mis Mawrth – yr un a oedd, yn rhyfeddol, wedi methu â sôn o gwbl am y rhaglenni sy’n cael eu gwneud yn arbennig ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. O gofio cryfder yr ymateb gan gyrff yng Nghymru – gan gynnwys barn y Sefydliad Materion Cymreig ei hun – byddai rhywun wedi disgwyl i’r Ymddiriedolaeth feirniadu’r methiant hwnnw’n hallt, gyda gwarant y byddai’r diffyg yn cael ei gywiro.

Yn hytrach, fe gawson ni’r hel dail mandarinaidd arferol, yn hytrach na dicter gwirioneddol ynghylch distawrwydd llethol rheolwyr y BBC … “pryder am y diffyg ffocws ymddangosiadol ar yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon”. Dyw hi ddim yn ymddangos bod yr Ymddiriedolaeth ei hun ddim yn gallu wynebu neu ganolbwyntio ar wasanaethau o fewn cenhedloedd y BBC.

Dyw ei ‘chasglaidau cychwynnol’ ddim yn trafod y mater o gwbl, efallai oherwydd y byddai hynny’n golygu cost ychwanegol. Yn hytrach, mae’r datganiad yn llithro heibio iddo ac yn symud yn gyflym ymlaen at faterion cynhyrchu’r rhwydwaith a sut y mae’r cenhedloedd llai’n cael eu portreadu yn rhaglenni’r rhwydwaith. Os yw Cymru am amddiffyn gwasanaethau’r BBC iddi, rhaid iddi gael yr Ymddiriedolaeth i gydnabod bod y materion hyn yn gwbl ar wahân ac na ddylid bargeinio un yn erbyn y llall.

Tra bod hyn i gyd yn atgyfnerthu’r ddadl tros ddatganoli peth o’r cyfrifoldeb am ddarlledu, bydd hi’n cymryd rhwng pump a deng mlynedd i wneud hynny. Yn y cyfamser, beth bynnag yw’r sefyllfa ffurfiol, dylai’r Cynulliad a’i Weinidogion rhoi heibio unrhyw amharodrwydd i fynd i’r afael â’r Senedd a Gweinidogion yn Llundain, yn ogystal â chymryd y cyfle i roi sgwrfa i Ymddiriedolaeth y BBC. Fel arall, bydd y diwydiant darlledu yng Nghymru yn parhau i fynd i lawr y rhiw tuag at gyni economaidd a diwylliannol.

Mae’r erthygl Saesneg wreiddiol fan hyn.