Mae Morgannwg wedi enwi carfan 13 dyn ar gyfer eu gêm ddiweddaraf yn Adran Dau Pencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Middlesex dydd Llun nesaf.

Mae James Harris a Will Owen yn ymuno gyda’r 11 chwaraewr a gurodd Swydd Caerwrangon ddoe.

Fe fydd y Dreigiau’n gobeithio atgyfnerthu eu safle ar frig y tabl gyda buddugoliaeth arall yn Stadiwm SWALEC.

Dyw’r ddau dîm heb wynebu ei gilydd yn y Bencampwriaeth yng Nghaerdydd ers 2005, gyda gêm 2008 yn cymryd lle ym Mae Colwyn a gemau 2007 a 2009 yn Abertawe.

Fe enillodd Morgannwg y gêm llynedd ar faes Sant Helen yn hwyr ar drydydd diwrnod y chwarae, o 22 rhediad.

Ond pan wynebodd Morgannwg Middlesex yng Nghaerdydd yn 2005, fe enillodd yr ymwelwyr o fatiad.

Dyw Morgannwg heb ennill gêm Pencampwriaeth y Siroedd yng Nghaerdydd yn erbyn Middlesex ers 1991, pan enillodd y Dreigiau o 129 o rediadau.

Ond maen nhw eisoes wedi curo Middlesex yn Lord’s y tymor hwn ac fe fyddan nhw’n awyddus i sicrhau’r dwbl yn y Bencampwriaeth am y tro cyntaf erioed.

Carfan Morgannwg

Gareth Rees, Mark Cosgrove, Tom Maynard, Ben Wright, Jamie Dalrymple, Jim Allenby, Mark Wallace, James Harris, Robert Croft, Dean Cosker, David Harrison, Huw Waters, Will Owen.